3 Ioan 1 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Yr henuriad at yr annwyl Gaius, yr hwn yr wyf i yn ei garu yn y gwirionedd.

2Y gŵr annwyl, ym mhopeth fy ngweddi yw fod i ti rwydd hynt ac iechyd, fel y mae i’th enaid rwydd hynt,

3canys llawenychais yn ddirfawr ddyfod o’r brodyr a thystio i’th wirionedd, dy fod yn rhodio yn y gwirionedd.

4Mwy llawenydd na’r pethau hyn nid oes gennyf, fy mod yn clywed bod fy mhlant yn rhodio yn y gwirionedd.

5Gyfaill annwyl, yr wyt yn ymddwyn fel credadun yn dy holl ymwneuthur â’r brodyr, a hwythau’n ddieithriaid hefyd, —

6ac y maent hwy wedi tystio i’th gariad gerbron yr eglwys, a da y gwnei eu rhoddi ar ben eu ffordd, yn deilwng o Dduw,

7oherwydd er mwyn yr enw yr aethant allan, heb dderbyn dim ar law y paganiaid.

8Felly dylem ninnau groesawu rhai fel hyn, er mwyn inni fod yn gyd-weithredwyr â’r gwirionedd.

9Ysgrifennais air at yr eglwys, ond nid yw Diotrephes sydd am fod ar y blaen arnynt, yn ein cydnabod.

10Am hynny, pan ddeuaf, mi a alwaf sylw at ei waith yn clebran i’n herbyn â geiriau drwg; ac nid yw hyn yn ddigon ganddo, — ni fyn ei hunan dderbyn y brodyr, ond y mae hefyd yn rhwystro’r rhai sy’n dymuno hynny, ac yn eu torri allan o’r eglwys.

11Gyfaill annwyl, na chymer y drwg yn esiampl ond y da. Yr hwn sy’n gwneuthur da, o Dduw y mae; yr hwn sy’n gwneuthur drwg, nid yw wedi gweled Duw.

12Cafwyd tystiolaeth i Demetrius gan bawb a chan y gwirionedd ei hunan; ac yr ydym ninnau’n tystio, a gwyddost fod ein tystiolaeth ni yn wir.

13Yr oedd gennyf lawer i’w ysgrifennu atat, ond nid wyf am ysgrifennu atat â phin ac inc.

14Ond yr wyf yn gobeithio cael dy weled yn fuan a chawn siarad wyneb yn wyneb.

15Tangnefedd i ti. Y mae’r cyfeillion yn dy gyfarch; cyfarch y cyfeillion wrth eu henwau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help