Rhufeiniaid 7 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ai heb wybod yr ydych, frodyr, canys wrth rai a ŵyr am ddeddf y llefaraf, mai cyhyd ag y bo byw dyn yr arglwyddiaetha’r ddeddf arno?

2Rhwym trwy ddeddf i’w gŵr yw’r wraig briod, ac ef yn fyw; ond os bydd marw’r gŵr, y mae’n gwbl rydd oddi wrth ddeddf y gŵr.

3Am hynny, ynteu, a’r gŵr yn fyw, fe gaiff yr enw godinebwraig os â yn eiddo gŵr arall. Eithr os bydd marw’r gŵr, rhydd ydyw oddi wrth y ddeddf, fel nad godinebwraig mohoni, ei dyfod yn eiddo gŵr arall.

4Felly, fy mrodyr, gwnaed chwithau yn farw i’r ddeddf trwy gorff Crist, fel y delech yn eiddo arall, sef yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.

5Canys pan oeddem yn y cnawd, nwydau pechodau, y rhai sydd trwy’r ddeddf, a ymegnïai yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth;

6ond yn awr yr ydym yn gwbl rydd oddi wrth y ddeddf, wedi marw ohonom i’r peth yr oeddem yn ei afael, fel yr ydym yn gaethion ym myd newydd ysbryd, ac nid yn hen fyd llythyren.

7Beth gan hynny a ddywedwn? Ai pechod yw’r ddeddf? Na ato! Er hynny, nid adwaenwn i bechod ond trwy ddeddf; ni wyddwn i am chwant, oni bai ddywedyd o’r ddeddf na thrachwanta.

fel yr amlygid ef yn bechod, gan weithio marwolaeth i mi drwy’r hyn sy dda, fel y byddai pechod trwy’r gorchymyn yn bechadurus i’r eithaf.

14Canys gwyddom fod y ddeddf yn ysbrydol, ond myfi, cnawdol ydwyf, wedi fy ngwerthu dan bechod.

15Y peth a gyflawnaf, nid adwaen; canys nid a ewyllysiaf a wnaf, ond a gasâf, hynny a wnaf.

16Ond os y peth nad ewyllysiaf a wnaf, cydsyniaf â’r ddeddf ei bod yn dda.

17Felly yn awr, nid myfi mwyach sy’n ei gyflawni, ond pechod, yr hwn sy’n cartrefu ynof fi.

18Canys gwn na chartrefa ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd i, ddim da. Canys ewyllysio sydd barod gennyf, ond cyflawni’r da, nid yw.

19Oherwydd y peth da a ewyllysiaf ni wnaf, ond y peth drwg nad ewyllysiaf a wnaf.

20Ond os y peth nad ewyllysiaf a wnaf, nid myfi mwyach a’i cyflawna, ond pechod, yr hwn sy’n cartrefu ynof fi.

21Caf felly yn ddeddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur y peth sy dda, mai’r peth sy ddrwg sydd barod gennyf;

22canys cyd-ymhyfrydaf â deddf Duw yn ôl y dyn oddi mewn,

23ond gwelaf ddeddf wahanol yn fy aelodau, yn milwrio yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo dan ddeddf pechod y sydd yn fy aelodau.

24Druan ddyn fyfi! pwy a’m gwared oddi wrth y corff marw hwn?

25Diolch i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Am hynny, ynteu, yr wyf fi fy hun, o ran y meddwl, yn gaeth i ddeddf Duw, ond o ran y cnawd, i ddeddf pechod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help