1Nid oes gan hynny yn awr ddim condemniad i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu.
2Canys rhyddhaodd deddf ysbryd y bywyd dydi, yng Nghrist Iesu, oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth.
3Canys, a’r ddeddf yn ddiallu yn yr hyn yr oedd yn wan trwy’r cnawd, trwy ddanfon ei Fab ei hun yn nhebygrwydd cnawd pechadurus, ac oherwydd pechod, condemniodd Duw bechod yn y cnawd,
4fel y cyflawnid ordeiniad y ddeddf ynom ni, sy’n rhodio nid yn ôl y cnawd, ond yn ôl yr Ysbryd.
5Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, ar bethau’r cnawd y mae eu bryd, ond y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, ar bethau’r Ysbryd.
6Canys rhoi bryd ar y cnawd sydd farwolaeth, ond rhoi bryd ar yr Ysbryd sydd fywyd a thangnefedd.
7Oblegid rhoi bryd ar y cnawd sydd elyniaeth tuag at Dduw, canys nid ymostwng i ddeddf Duw, ac yn wir ni all.
8Ac ni all y rhai sydd yn y cnawd ryngu bodd Duw.
9Ond chwi, nid yn y cnawd yr ydych, ond yn yr ysbryd, os cartrefa Ysbryd Duw ynoch. Ac os oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef.
10Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corff yn farw oherwydd pechod, ond yr ysbryd yn fywyd oherwydd cyfiawnder.
11Ac os ysbryd yr hwn a gyfododd yr Iesu oddi wrth y meirw sy’n cartrefu ynoch, yr hwn a gyfododd Grist Iesu oddi wrth y meirw a fywha hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd a gartrefa ynoch.
12Am hynny, ynteu, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd.
13Canys os ydych yn byw yn ôl y cnawd, marw fydd eich rhan, eithr os ydych trwy’r Ysbryd yn marwhau gweithredoedd y corff, byw fyddwch.
14Canys cynifer ag a arweinir gan Ysbryd Duw, y mae’r rheini yn feibion Duw.
15Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed i ofni eilwaith, eithr derbyniasoch ysbryd mabwysiad, y llefwn trwyddo Abba Dad.
16Cyd-dystia’r Ysbryd ei hun â’n hysbryd ni ein bod yn blant Duw.
17Ac os plant, etifeddion hefyd; etifeddion Duw, a chyd-etifeddion Crist, os yn wir y cyd-ddioddefwn gydag ef, fel y cydogonedder ni hefyd.
18Oblegid yr wyf yn cyfrif mai dibwys yw dioddefiadau’r pryd hwn wrth y gogoniant sydd ar fedr ei ddatguddio i ni.
19Oherwydd y mae hiraeth y greadigaeth yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw.
20Canys darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o’i dewis, eithr o’i blegid ef a’i darostyngodd,
21mewn gobaith y rhyddheir y greadigaeth hithau o gaethiwed llygredigaeth i ryddid gogoniant plant Duw.
22Canys gwyddom fod yr holl greadigaeth yn ocheneidio drwyddi ac mewn gwewyr hyd yr awron;
23ac nid hynny’n unig, ond ninnau, a chennym flaenffrwyth yr Ysbryd, ie, ninnau hefyd a ocheneidiwn ynom ein hunain, gan ddisgwyl am fabwysiad, prynedigaeth ein corff.
24Canys â’r gobaith hwn yr achubwyd ni; ond pan fo gobaith yn weledig, nid gobaith mohono; canys a wêl dyn, paham y gobeithia amdano?
25Ond os am y peth na welwn y gobeithiwn, yr ydym yn disgwyl mewn amynedd amdano.
26Yr un ffunud hefyd, rhydd yr Ysbryd gymorth i’n gwendid ni, canys pa beth i weddïo fel y dylid, ni wyddom, eithr erfyn yr Ysbryd ei hun drosom ag ocheneidiau anhraethadwy.
27Gŵyr y Chwiliwr calonnau ar beth y mae bryd yr Ysbryd, gan mai yn ôl ewyllys Duw yr erfyn ar ran y saint.
28A gwyddom ei fod ef yn cydweithio er daioni ym mhob peth â’r sawl a gâr Dduw, y rhai sydd alwedigion yn ôl arfaeth.
29Oblegid y rhai a ragadnabu a ragbenododd ef hefyd i’w cydffurfio â delw ei Fab, fel y byddai ef yn gyntafanedig ymhlith brodyr lawer;
30a’r rhai a ragbenododd, y rheini a alwodd ef hefyd; a’r rhai a alwodd, y rheini a gyfiawnhaodd ef hefyd; a’r rhai a gyfiawnhaodd, y rheini a ogoneddodd ef hefyd.
31Pa beth, ynteu, a ddywedwn ar bwys y pethau hyn? Os yw Duw o’n tu, pwy sydd yn ein herbyn?
32Y Duw nid arbedodd ei briod Fab ond a’i traddododd ef drosom ni oll, pa fodd gydag ef hefyd na rad ddyry ef bob peth i ni?
33Pwy a ddwg gyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sy’n cyfiawnhau;
34pwy sy’n condemnio? Crist Iesu yw’r hwn a fu farw, neu’n hytrach a gyfodwyd, y sydd ar ddeheulaw Duw, y sydd hefyd yn erfyn drosom.
35Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf?
36Fel yr ysgrifennwyd: Er dy fwyn di lleddir ni trwy gydol y dydd. Cyfrifwyd ni fel defaid lladdfa.
Salm 44:22.37Eithr yn y pethau hyn i gyd mwy na choncwerwyr ydym trwyddo ef a’n carodd ni.
38Canys sicr ydwyf na bydd marwolaeth na bywyd, nac angylion na llywodraethau, na phethau sydd na phethau a ddaw,
39na phŵerau nac uchder na dyfnder, nac unrhyw greadigaeth arall, yn abl i’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, y sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.