Mathew 26 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A phan orffennodd yr Iesu yr holl eiriau hyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion,

2“Gwyddoch fod y pasg yn dyfod ymhen deuddydd, a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio.”

3Y pryd hynny ymgynullodd yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl yng nghyntedd yr archoffeiriad a elwid Caiaffas,

4ac ymgyngorasant i gael gafael ar yr Iesu trwy ddichell a’i ladd;

5ond meddent, “Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.”

6A phan oedd yr Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus,

7daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ai dywallt ar ei ben pan oedd ef wrth y bwrdd.

8A phan welodd y disgyblion, digiasant gan ddywedyd, “Paham y golled hon?

9Canys gallesid gwerthu hyn er llawer, a’i roi i dlodion.”

10A deallodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, “Paham y perwch flinder i’r wraig? Canys gweithred hardd a wnaeth hi arnaf i;

11canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser, ond myfi, nid wyf i gennych bob amser;

12canys hon, wrth roi’r ennaint hwn ar fy nghorff, erbyn fy nghladdu y gwnaeth hynny.

13Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregethir yr efengyl hon yn yr holl fyd, fe adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon er cof amdani.”

14Yna aeth un o’r deuddeg, a elwid Iwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid,

15a dywedodd, “Beth a rowch i mi, am i mi ei draddodi ef i chwi?” Pwysasant hwythau iddo ddeg ar hugain o ddarnau arian.

16Ac o’r pryd hwnnw ceisiai gyfle i’w fradychu ef.

17Ar ddydd cyntaf gŵyl y bara croyw daeth y disgyblion at yr Iesu, a dywedyd, “Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg?”

18Dywedodd yntau, “Ewch i’r ddinas at hwn a hwn, a dywedwch wrtho, ‘Mae’r Athro’n dywedyd, Y mae fy amser yn ymyl; gyda thi y cadwaf y pasg ynghyd â’m disgyblion’.”

19A gwnaeth y disgyblion fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt, a pharatoesant y pasg.

20Wedi iddi hwyrhau yr oedd yn eistedd wrth y bwrdd gyda’r deuddeg disgybl.

21Ac â hwy’n bwyta fe ddywedodd, “Yn wir meddaf i chwi, un ohonoch chwi a’m bradycha i.”

22A than ofidio’n ddirfawr dechreuasant ddywedyd wrtho bob un ac un, “Nid myfi yw, Arglwydd?”

23Atebodd yntau, “Y sawl a wlycho’i law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i.

24Mab y dyn yn wir sy’n myned fel y mae’n ysgrifenedig amdano, ond gwae’r dyn hwnnw y bradychir Mab y dyn trwyddo; da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef.”

25Atebodd Iwdas, ei fradychwr, “Nid myfi yw, Rabbi?” Medd ef wrtho, “Ti sy’n gofyn.”

26Ac wrth iddynt fwyta cymerth yr Iesu fara, ac wedi bendithio torrodd ef a’i roi i’r disgyblion a dywedyd, “Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.”

27A chymerth gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, “Yfwch ohono bawb;

28canys hwn yw fy ngwaed cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau.

29Meddaf i chwi, nid yfaf o hyn allan o’r ffrwyth hwn i’r winwydden hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad.”

30Ac wedi iddynt ganu emyn, aethant allan i fynydd yr Olewydd.

31Yna dywed yr Iesu wrthynt, “Fe’ch tramgwyddir chwi oll ynof i heno; canys y mae’n ysgrifenedig, Trawaf y bugail, a gwasgerir defaid y ddiadell.

32Ond wedi i mi gyfodi, mi af o’ch blaen chwi i Galilea.”

33Ond atebodd Pedr iddo, “Os tramgwyddir pawb ynot ti, ni’m tramgwyddir i byth.”

34Ebe’r Iesu wrtho, “Yn wir meddaf i ti, heno, cyn i’r ceiliog ganu, ti a’m gwedi deirgwaith.”

35Medd Pedr wrtho, “Hyd yn oed os rhaid imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim.” Felly hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.

36Yna daw’r Iesu gyda hwynt i ddarn o dir a elwid Gethsemane, ac eb ef wrth y disgyblion, “Eisteddwch yma tra bwyf yn mynd draw acw i weddïo.”

37A chymerth Bedr a dau fab Sebedeus gydag ef; a dechreuodd dristáu ac ymgynhyrfu.

38Yna medd ef wrthynt, “Athrist yw fy enaid hyd angau; arhoswch yma a chedwch yn effro gyda mi.”

39Ac wedi myned rhagddo ychydig syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo a dywedyd, “Fy Nhad, os oes dichon, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf; eithr nid fel y mynnaf i, ond fel y mynni di.”

40A daw at y disgyblion a’u cael yn cysgu, ac medd ef wrth Bedr, “Oni allasoch gadw’n effro gyda mi am gymaint ag un awr?

41Byddwch effro a gweddïwch nad eloch i demtasiwn. Yr ysbryd yn wir sydd eiddgar, ond y cnawd yn wan.”

42Drachefn yr ail waith aeth ymaith, a gweddïodd gan ddywedyd, “Fy Nhad, oni all hwn fyned heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys.”

43A daeth drachefn, a’u cael yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau.

44Ac fe’u gadawodd ac aeth ymaith drachefn, a gweddïodd y drydedd waith gan ddywedyd yr un ymadrodd drachefn.

45Yna daw at y disgyblion, ac medd ef wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyma’r awr gerllaw, awr traddodi Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid.

46Codwch, awn; dyma fy mradychwr yn ymyl.”

47Ac ef eto’n llefaru, dyma Iwdas, un o’r deuddeg, yn dyfod, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a phastynau oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl.

48Rhoesai ei fradychwr arwydd iddynt, gan ddywedyd, “Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw ydyw; deliwch ef.”

49A daeth yn syth at yr Iesu; a dywedodd, “Henffych well, Rabbi!”

50A chusanodd ef. Dywedodd yr Iesu wrtho, “Gyfaill, ymlaen gyda’th waith.” Yna daethant a rhoi eu dwylo ar yr Iesu, a’i ddal.

51A dyma un o’r rhai a oedd gydag Iesu yn estyn ei law a thynnu ei gleddyf, a chan daro gwas yr archoffeiriad torrodd ymaith ei glust.

52Yna medd yr Iesu wrtho, “Dychwel dy gleddyf i’w le, canys pawb a gymeront gleddyf, â chleddyf y difethir hwy.

53Neu a dybi di na allaf ddeisyf ar fy Nhad, a chawn ganddo yn y fan fwy na deuddeg lleng o angylion?

54Sut felly y cyflawnir yr ysgrythurau mai fel hyn y mae’n rhaid iddi fod?”

55Yr awr honno ebe’r Iesu wrth y tyrfaoedd, “Ai megis at leidr y daethoch allan gyda chleddyfau a phastynau i’m dal? Beunydd yr eisteddwn yn y deml yn dysgu, ac ni roesoch law arnaf.

56Ond hyn oll a fu fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi.” Yna gadawodd yr holl ddisgyblion ef, a ffoesant.

57A’r rhai a ddaliodd yr Iesu a’i dug ef ymaith at Gaiaffas yr archoffeiriad i’r lle yr ymgynullasai’r ysgrifenyddion a’r henuriaid.

58Yr oedd Pedr yn ei ddilyn ef o bell hyd gyntedd yr archoffeiriaid, ac aeth i mewn ac eistedd gyda’r gwasanaethyddion i weled y diwedd.

59A cheisiai’r archoffeiriaid a’r holl Sanhedrin gam dystiolaeth yn erbyn yr Iesu fel y rhoddent ef i farwolaeth,

60ac nis cawsant er i lawer o gam dystion ddyfod ymlaen.

61O’r diwedd daeth dau ymlaen a dywedyd, “Fe ddywedodd hwn, Gallaf ddymchwelyd teml Dduw a’i hadeiladu mewn tridiau.”

62A chododd yr archoffeiriad, a dywedodd wrtho, “Onid atebi ddim? Beth am yr hyn a dystia’r rhain i’th erbyn?”

63Ond tawai’r Iesu. Ac ebe’r archoffeiriad wrtho, “Yr wyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw ddywedyd i ni ai ti yw’r Crist, Mab Duw.”

64Medd yr Iesu wrtho, “Ti sy’n gofyn; eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn cewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod ar gymylau’r nef.”

65Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad gan ddywedyd, “Cablodd. Pa raid i ni mwy wrth dystion? Wele yn awr, clywsoch y cabledd;

66beth debygwch chwi?” Atebasant hwythau, “Haedda farw.”

67Yna poerasant yn ei wyneb a’i ddyrnodio; cernodiodd eraill ef,

68gan ddywedyd, “Proffwyda i ni, Grist! Pwy yw’r un a’th drawodd?”

69Eisteddai Pedr allan yn y cyntedd; a daeth rhyw forwyn ato, gan ddywedyd, “Yr oeddit tithau gydag Iesu’r Galilead.”

70Gwadodd yntau yng ngŵydd pawb, gan ddywedyd, “Ni wn beth yr wyt yn ei feddwl.”

71Ac wedi iddo fynd allan i’r porth, gwelodd morwyn arall ef, ac medd hi wrth y rhai oedd yno, “Yr oedd hwn gydag Iesu’r Nasaread.”

72A thrachefn gwadodd ar ei lw, “Nid adwaen i mo’r dyn.”

73Ymhen ychydig daeth y rhai oedd gerllaw ato, a dywedasant wrth Bedr, “Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; achos y mae dy leferydd yn dy fradychu.”

74Yna fe ddechreuodd felltithio a thyngu, “Nid adwaen i mo’r dyn.” Ac yn y fan canodd y ceiliog.

75A chofiodd Pedr y gair a ddywedasai’r Iesu, “Cyn i’r ceiliog ganu, ti a’m gwedi deirgwaith.” Ac aeth allan, ac wylodd yn chwerw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help