Amos 6 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A! y rhai esmwyth arnynt yn Seion,

A’r rhai ysgafala ym mynydd Samaria,

Urddasolion y bennaf o’r cenhedloedd,

Y rhai y daw Tŷ Israel atynt;

2Ewch drosodd i Galne, ac edrychwch,

Ac ewch oddi yno i Hamath Rabba,

Ac ewch i lawr i Gath y Philistiaid;

Ai gwell chwi na’r teyrnasoedd hyn?

Neu ehangach eu goror na’ch goror chwi?

3Chwi y sy’n gohirio’r dydd drwg,

Ac yn prysuro gorseddu trais;

4Y sy’n gorwedd ar lythau ifori,

Ac yn ymdreiglo ar eu gwelâu;

Ac yn bwyta ŵyn o’r praidd,

A lloi o ganol y côr;

5Y sy’n canu gyda’r tannau,

Fel Dafydd dyfeisiant iddynt offer cerdd;

6Y rhai sy’n yfed gwin o gawgiau,

Ac yn ymiro â’r olew coethaf;

Ac nis clafychwyd am ddryllio Ioseff.

7Am hynny yn awr yr ânt yn gaethglud ar flaen y caethgludion,

A derfydd gloddestfloedd yr ymdreiglwyr.

8Tyngodd fy Arglwydd Iafe iddo’i hun,

Medd Iafe, Duw lluoedd,

“Yr wyf yn ffieiddio godidowgrwydd Iacob,

A chasâf ei gestyll,

A thraddodaf ddinas a’i chynnwys.”

9Ac os gadewir deg o ddynion mewn un tŷ,

Byddant feirw.

10A phan gyfyd câr neb, a’i losgwr, ef i fyny,

I ddwyn yr esgyrn allan o’r tŷ,

Fe ddywed wrth yr hwn a fo yng nghilfachau’r tŷ,

“A oes gyda thi chwaneg?”

Dywed hwnnw “Nac oes.”

“Ust” medd yntau,

Gan nad gwiw crybwyll enw Iafe.

11Canys wele Iafe’n gorchymyn,

A thery’r plas yn deilchion,

A’r bwthyn yn fylchau.

12A red meirch ar y graig?

Neu a ardd un hi ag ychen?

Canys troesoch farn yn llysieuyn gwenwynig,

A ffrwyth cyfiawnder yn wermod,

13Y rhai sy’n llawenychu oherwydd Lo-debar,

Y sy’n dywedyd,

“Onid drwy ein nerth y cymerasom inni Garnaim?”

14“Canys wele fi’n codi cenedl yn eich erbyn, Dŷ Israel,”

Medd Iafe, Duw’r lluoedd,

“A gorthrymant chwi o Ddrws Hamath hyd Nant yr Arafa.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help