1 Timotheus 5 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Na ddyro gerydd chwyrn i hynafgwr, eithr annog ef fel petai dad iti, a’r gwŷr ieuainc fel brodyr;

2yr hynafwragedd fel mamau, a’r merched ieuainc fel chwiorydd, yn gwbl bur.

3I’r gweddwon di-gefn, dyro gymorth.

4Eithr od oes gan weddw blant neu ŵyrion, dysgent fyw yn dduwiol yn gyntaf yn eu teulu eu hunain, ac ad-dalu i’w hynafiaid, canys hyn sy dderbyniol gan Dduw.

5Ond y weddw ddi-gefn ac unig, y mae ei gobaith hi ar Dduw, a phery yn ei hymbiliau a’i gweddïau nos a dydd.

6Ond y weddw drythyll, y mae hi wedi marw a hithau’n fyw.

7Y pethau hyn gorchymyn, fel y byddont yn ddiargyhoedd.

8Eithr oni ddarpar dyn ar gyfer ei dylwyth, ac yn enwedig ei deulu, y mae wedi gwadu’r ffydd, a gwaeth yw nag anghredadun.

9Rhaid i weddw a gofrestrir fod o leiaf yn drigain mlwydd oed, a fu yn wraig un gŵr,

10ac enw iddi am weithredoedd da; iddi fagu plant, iddi letya dieithriaid, iddi olchi traed saint, iddi gynorthwyo rhai adfydus, a dilyn pob gwaith da.

11Ond gwrthod weddwon ieuainc, canys pan ymdrythyllont yn erbyn Crist, priodi a fynnant

12a dyfod dan farn am iddynt ddiddymu eu hadduned gyntaf.

13Ynghyda hyn dysgant fod yn segur, gan wibio o dŷ i dŷ, ac nid yn segur yn unig, eithr hefyd yn gegog ac ymyrgar, ac yn adrodd pethau na ddylid.

14Gwell gennyf, ynteu, i weddwon ieuainc briodi, dwyn plant, a gwarchod cartref, heb roddi unrhyw gyfle i’r gelyn i’n difenwi.

15Canys eisoes gwyrodd rhai ar ôl Satan.

16Od oes gan wraig grediniol weddwon, estynned gymorth iddynt, ac na feichier yr eglwys, fel y gallo hi gynorthwyo’r gweddwon di-gefn.

17Yr henuriaid sy’n llywyddu’n dda, cyfrifer hwy’n deilwng o barch deublyg, yn enwedig y rhai sy’n llafurio trwy bregethu ac addysgu.

18Canys dywed yr Ysgrythur, Na rwyma safn yr ych sy’n sathru’r ŷd, hefyd Teilwng yw’r gweithiwr o’i gyflog.

19Na dderbyn gyhuddiad yn erbyn henuriad, oddieithr ar dystiolaeth dau neu dri.

20Y rhai sy’n dal i bechu, cerydda hwynt yngŵydd pawb, fel y caffo’r gweddill hefyd ofn.

21Tynghedaf di yngŵydd Duw a Christ Iesu a’i ddewis angylion, i gadw’r cyfarwyddiadau hyn, heb na rhagfarn na chwaith wneuthur dim o ffafraeth.

22Na ddod ddwylo yn frysiog ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill. Cadw dy hun yn bur.

23Na fydd ddyfrwr yn hwy, ond cymer ychydig win er mwyn dy gylla a’th fynych wendid.

24Am rai dynion, y mae eu pechodau yn amlwg, yn eu tywys i farn; am rai eraill, y maent yn dilyn ar eu hôl.

25Yr un modd, y mae gweithredoedd da hefyd yn amlwg, a’r rhai sydd amgen ni ellir eu cuddio.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help