1Dowch, ynteu, chwi gyfoethogion, wylwch, gan udo oblegid eich trallodau, sydd ar eich gwarthaf.
2Eich cyfoeth, pydru a wnaeth, a’ch gwisgoedd sydd wedi eu hysu gan bryfed;
3rhydodd eich aur a’ch arian, a bydd eu rhwd hwynt yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, a bwyty eich cnawd megis tân. Casglu trysor a wnaethoch
7Byddwch hir-ymarhöus ynteu, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, disgwyl y mae’r llafurwr am werthfawr ffrwyth y ddaear, gan hir-ymaros amdano, hyd oni chaffo’r glaw cynnar a’r diweddar
gan ei eneinio ag olew yn enw’r Arglwydd.15Ac fe iachâ gweddi eu ffydd hwynt y claf, a chyfyd yr Arglwydd ef: ac o bydd wedi pechu, maddeuir iddo.
16Cyffeswch gan hynny eich pechodau i’ch gilydd, a gweddïwch y naill dros y llall, fel y’ch iachäer. Llawer, o’i ddodi ar waith, a ddichon deisyfiad y cyfiawn.
17Dyn oedd Elïas o’r un sut a ninnau, ac mewn gweddi gweddïodd na byddai glaw, a glaw ni bu ar y ddaear dair blynedd a chwe mis.
18A thrachefn gweddïodd, a rhoddes y nef law, a pharodd y ddaear darddu o’i ffrwyth.
19Fy mrodyr, o chyfeiliorna neb ohonoch oddi wrth y gwirionedd, a throi a rywun ef yn ei ôl,
20gwbyddwch y bydd i’r neb a droes bechadur o gyfeiliorni ei ffordd, gadw ei enaid ef rhag marwolaeth, a chuddio lliaws o bechodau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.