1Am hynny, frodyr a saint, chwychwi sy’n gyfrannog o’r alwad nefol, ystyriwch gennad ac archoffeiriad ein proffes ni, Iesu,
2fel y mae’n ffyddlon i’r hwn a’i gosododd, fel Moses yntau yn ei holl dŷ ef.
3Canys teilwng o fwy gogoniant na Moses y barnwyd hwn, i’r mesur y mae gan y sawl a adeiladodd dŷ fwy anrhydedd na’r tŷ;
4oherwydd adeiledir pob tŷ gan rywun, ond y neb a adeiladodd bopeth, Duw ydyw.
5Ac am Foses, ffyddlon oedd ef yn ei holl dŷ ef fel gwas er tystiolaethu am y pethau oedd i’w mynegi,
6ond Crist fel mab dros ei dŷ ef. A’i dŷ ef ydym ni, os cymerwn afael yn dynn yn hyder ac ymffrost ein gobaith hyd y diwedd.
7Gan hynny, fel y dywed yr Ysbryd Glân:
“Heddiw os clywch ei lais ef,
8 Na chaledwch eich calonnau megis yn y Chwerwedd,
Yn null dydd y profi yn yr anialwch,
9 lle y rhoes eich tadau chwi brawf arnaf,
ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd.
10Gan hynny, mi a sorrais wrth y genhedlaeth honno, a dywedais, ‘yn wastad y mae eu calonnau ar gyfeiliorn, ac nid adnabuant hwy fy ffyrdd i.’
11 Am hynny y tyngais yn fy llid,
‘Byth ni chânt ddyfod i mewn i’m gorffwysfa i’.”
12Edrychwch, frodyr, na bo gan neb ohonoch fyth ddrwg galon anghrediniaeth, mewn gwrthgiliad oddi wrth y Duw byw,
13ond cymhellwch eich gilydd beunydd, tra gelwir hi’n heddiw, fel na chaleder neb ohonoch gan dwyll pechod.
14Canys yr ydym bellach yn gyfranogion o Grist, os cymerwn afael yn dynn hyd y diwedd yn ein sicrwydd cyntaf.
15Yn y geiriau,
“Heddiw os clywch ei lais ef,
Na chaledwch eich calonnau megis yn y Chwerwedd,”
16pwy, felly, wedi ei glywed, a’i chwerwodd?
Onid pawb a ddaeth allan o’r Aifft trwy Foses?17Wrth bwy y sorrodd ef ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai a gwympodd yn gelanedd yn yr anialwch?
18Wrth bwy y tyngodd na chaent ddyfod i mewn i’w orffwysfa ef onid wrth y rhai a anufuddhaodd?
19A gwelwn mai trwy anghrediniaeth y methasant ddyfod i mewn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.