1Yr hyn oedd ar y dechrau, yr hyn yr ydym wedi ei glywed, yr hyn yr ydym wedi ei weled â’n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno ac a deimlodd ein dwylo am air y bywyd, —
2ac amlygwyd y bywyd, ac yr ydym wedi gweled ac yn tystio ac yn cyhoeddi i chwi y bywyd tragwyddol, a oedd gyda’r Tad ac a amlygwyd i ni, —
3yr hyn yr ydym wedi ei weled a’i glywed yr ydym yn ei gyhoeddi i chwithau hefyd, er mwyn i chwithau gael cymundeb gyda ni; ac yn wir ein cymundeb ni, gyda’r Tad a chyda’i Fab Iesu Grist y mae.
4A hyn yr ydym yn ei ysgrifennu atoch er mwyn bod ein llawenydd wedi ei gyflawni.
5A hon yw’r genadwri yr ydym wedi ei chlywed ganddo Ef ac yr ydym yn ei chyhoeddi i chwithau, mai goleuni yw Duw, a thywyllwch nid oes ynddo ddim.
6Os dywedwn fod gennym gymundeb gydag Ef a rhodio yn y tywyllwch, yr ydym yn dywedyd celwydd ac nid ydym yn gwneuthur y gwir.
7Ond os ydym yn rhodio yn y goleuni, fel y mae Ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb gyda’n gilydd, ac y mae gwaed Iesu Ei Fab Ef yn ein glanhau ni o bob pechod.
8Os dywedwn nad oes gennym bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain ac nid yw’r gwir ynom.
9Os addefwn ein pechodau, ffyddlon yw Ef a chyfiawn i faddau i ni ein pechodau a’n glanhau o bob anghyfiawnder.
10Os dywedwn ein bod heb bechu, yr ydym yn ei wneuthur Ef yn gelwyddog ac nid yw Ei air Ef ynom.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.