Actau'r Apostolion 27 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A phan benderfynwyd ar hwylio ohonom i’r Eidal, rhoent Baul a rhai carcharorion eraill yng ngofal canwriad, a’i enw Iwlius, o’r fintai Ymerodrol.

2Ac wedi i ni fynd ar long o Adramyttium, a oedd ar fedr hwylio i’r lleoedd ar hyd glannau Asia, codasom hwyl, a chyda ni Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica.

3A thrannoeth tiriasom yn Sidon, ac fe ymddug Iwlius yn garedig tuagat Baul a rhoi cennad iddo i fynd at ei gyfeillion a chael bod dan ofal.

4Ac oddiyno, wedi codi angor, hwyliasom yng nghysgod Cyprus am fod y gwyntoedd yn ein herbyn;

5ac wedi i ni hwylio dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia, cyraeddasom Fyra yn Lycia.

6Ac yno fe gafodd y canwriad long o Alecsandria, a oedd ar ei thaith i’r Eidal, ac fe’n gosododd ni arni.

7Am gryn ddyddiau araf hwylio yr oeddem, a braidd y deuthom ar gyfer Cnidus, ac am na adai’r gwynt inni, hwyliasom yng nghysgod Crete ar gyfer Salmône,

8a braidd trwy hwylio gyda’r tir y deuthom i ryw le a elwid Porthladdoedd Teg, a cherllaw iddo yr oedd dinas Lasea.

9A chan fod cryn amser wedi treiglo a bod morio bellach yn beryglus, oherwydd yr oedd hyd yn oed yr Ympryd eisoes wedi mynd heibio, fe gynghorai Paul hwynt,

10gan ddywedyd wrthynt; “Wŷr, gwelaf fod difrod a mawr golled, nid yn unig i’r llwyth ac i’r llong ond i’n bywydau ni hefyd, i ganlyn y fordaith.”

11Ond gwrandawai’r canwriad yn hytrach ar y peilat a’r capten nag ar ddim a ddywedai Paul.

12A chan fod y porthladd yn anghymwys i aeafu ynddo, fe roes y rhan fwyaf farn dros hwylio oddiyno, i gyrraedd, os gallent rywfodd, Phoenix, a gaeafu yno — porthladd yng Nghrete yn edrych tua’r dehau-orllewin a’r gogledd-orllewin.

13A phan araf chwythodd deheuwynt, tybiasant iddynt gael eu hamcan, â chodasant angor a chadw gyda thir Crete, yn agos i’r lan.

14Ond cyn hir fe ruthrodd i lawr o’r tir wynt tymhestlog, a elwir Ewracwilo;

15cipiwyd y llong, a chan na allai ddal yng ngwrthwyneb i’r gwynt, ildio a wnaethom, a gyrru o’i flaen.

16Ac wedi rhedeg yng nghysgod rhyw ynys fechan, a elwir Cawda, prin y gallasom gael meddiant o’r bâd,

17ac wedi ei godi defnyddio cynorthwyon a wnaethant i amwregysu’r llong; ac a hwythau’n ofni rhag eu bwrw ar y Syrtis, gostyngasant y teclyn, a mynd gyda’r llif felly.

18Ac a ni’n flin iawn arnom gan y dymestl, dechreuasant drannoeth daflu o’r llong,

19a’r trydydd dydd lluchio ymaith a wnaethant â’u dwylo eu hunain daclau’r llong.

20A phan nad ymddangosai na haul na sêr dros ddyddiau lawer, a thymestl fawr yn gwasgu arnom, o hynny allan dwyn oddiarnom yr oeddid bob gobaith am ein cadw.

21A phan fu hir eisiau bwyd, yna cododd Paul yn eu canol hwynt a dywedyd: “Wŷr, chwi ddylasech wrando arnaf fi, a pheidio â chychwyn allan o Grete, ac arbed y difrod hwn a’r golled.

22Hyd yn oed yn awr cynghoraf chwi i ymwroli, canys ni bydd dim colli bywyd yn eich plith chwi, ond yn unig y llong;

23canys fe safodd yn fy ymyl neithiwr angel y Duw piau fi a’r hwn yr wyf yn ei addoli,

24a dywedyd, ‘Paid ag ofni, Paul; ger bron Cesar y mae’n rhaid i ti sefyll, a dyma Dduw wedi rhoddi i ti y rhai oll sy’n morio gyda thi.’

25Felly ymwrolwch, wŷr; canys yr wyf yn credu Duw, mai felly y bydd, y modd y dywedwyd i mi.

26Ond ar ryw ynys y mae’n rhaid ein bwrw ni.”

27A phan ddaeth y bedwaredd nos ar ddeg, a ni’n ymdroi ym môr Hadria, tua chanol nos fe dybiai’r morwyr fod rhyw wlad yn dynesu.

28A phlymio a wnaethant a chael ugain gwryd; ac wedi symud ychydig, plymio drachefn a chael pymtheg gwryd.

29Ac a hwy’n ofni rhag efallai ein bwrw ar leoedd geirwon, bwriasant bedair angor o’r starn, a dyheu a wnaent am iddi ddyddhau.

30A’r morwyr yn ceisio ffoi o’r llong ac wedi gollwng y bâd i’r môr dan esgus mynd i estyn angorau o’r pen blaen,

31fe ddywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, “Onid erys y rhain yn y llong, ni ellwch chwi gael eich cadw.”

32Yna fe dorrodd y milwyr raffau’r bâd, a gadasant iddo gwympo ymaith.

33A hyd onid oedd hi ar ddyddhau, anogai Paul bawb i gymryd peth lluniaeth, gan ddywedyd, “Erbyn heddiw ers pedwar diwrnod ar ddeg yr ydych yn dal ar eich cythlwng i ddisgwyl, heb gymryd dim.

34Felly yr wyf yn dymuno arnoch gymryd peth lluniaeth, oblegid y mae hynny y mhlaid eich achubiaeth; canys i ddim un ohonoch ni chollir blewyn oddiar ei ben.”

35Ac wedi iddo ddywedyd hyn fe gymerth fara, a diolchodd i Dduw yng ngŵydd pawb, ac wedi iddo dorri fe ddechreuodd fwyta.

36Ac ymwroli a wnaeth pawb a chymryd hwythau hefyd beth lluniaeth.

37(Yr oeddem i gyd yn y llong yn rhyw un ar bymtheg a thrigain o eneidiau.)

38Ac wedi iddynt gael eu gwala o luniaeth, ysgafnhaent y llong trwy fwrw yr ŷd allan i’r môr.

39A phan ddaeth hi yn ddydd, nid adwaenent y tir, ond canfyddent ryw gilfach ac iddi draeth, ac ymgynghori a allent ddwyn y llong i mewn iddi yn ddiogel.

40A thorri ymaith yr angorau a wnaethant, a’u gadael yn y môr; yr un pryd datod cyplau’r llywiau, a chodi’r hwyl flaen i’r awel, a chyfeirio tua’r traeth.

41Ond wedi iddynt syrthio ar le rhwng dau fôr gyrasant y llong i dir, ac fe lynodd y pen blaen, a safodd, yn ddiysgog, ond y starn oedd yn ymddatod dan y grym.

42A chyngor y milwyr a fu lladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio ymaith a dianc.

43Ond gan yr ewyllysiai’r canwriad achub Paul, fe rwystrodd iddynt eu dymuniad, a gorchmynnodd i’r rhai a fedrai nofio ymdaflu allan yn gyntaf,

44a mynd ymaith tua’r tir, ac yna’r lleill, rhai ar ystyllod ac eraill ar ryw ddrylliau o’r llong ac felly y darfu i bawb ddyfod yn ddiogel i’r tir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help