1Simeon Pedr, caethwas ac apostol Iesu Grist, at y rhai a dderbyniodd ffydd gyfwerth â’r eiddom ni trwy gyfiawnder ein Duw ni a’n Hachubwr Iesu Grist.
2Amlhaer gras a thangnefedd i chwi mewn adnabyddiaeth o Dduw ac o Iesu ein Harglwydd ni.
3Yn gymaint ag y rhoes ei ddwyfol allu ef inni bopeth tuag at fywyd a duwioldeb, trwy adnabyddiaeth o’r hwn a’n galwodd ni trwy ei ogoniant ef ei hun a’i rinwedd,
4a rhoddi inni drwy’r rhain addewidion gwerthfawr a mawr iawn, er mwyn i chwi drwy’r rhai hyn ddyfod yn gyfrannog o anian ddwyfol, wedi dianc rhag y llygredd y sydd yn y byd trwy drachwant — ie,
5o achos hyn ynddo’i hun, gan weithredu pob dyfalwch, darperwch drwy eich ffydd rinwedd, a thrwy rinwedd wybodaeth,
6a thrwy wybodaeth hunanlywodraeth, a thrwy hunanlywodraeth amynedd, a thrwy amynedd dduwioldeb,
7a thrwy dduwioldeb frawdgarwch, a thrwy frawdgarwch gariad.
8Canys â’r pethau hyn yn gynhysgaeth i chwi ac yn amlhau, y maent yn peri nad ydych yn segur nac ychwaith yn ddiffrwyth mewn adnabyddiaeth o’n Harglwydd ni Iesu Grist.
9Canys yr hwn nid yw’r pethau hyn ganddo, dall ydyw, byr ei olwg, wedi gollwng dros gof lanhau ei bechodau gynt.
10Am hynny’n fwy, frodyr, byddwch ddyfal i wneuthur yn sicr eich galwad a’ch etholedigaeth, canys wrth wneuthur y pethau hyn ni lithrwch ddim byth.
11Canys felly’n helaeth y darperir i chwi fynediad i mewn i deyrnas dragwyddol ein Harglwydd ni a’n Hachubwr Iesu Grist.
12Oherwydd paham bwriadaf eich atgoffa’n wastad am y pethau hyn, er gwybod ohonoch ac er eich sefydlu yn y gwirionedd y sydd gyda chwi.
13A barnaf mai iawn, tra fyddwyf yn y babell hon, yw eich cyffroi chwi trwy eich hatgoffa,
14a mi’n gwybod y bwrir heibio’r babell hon yn fuan, megis hefyd yr amlygodd ein Harglwydd ni Iesu Grist i ni.
15A gofalaf hefyd eich bod bob amser wedi fy ymadawiad yn gallu dwyn y pethau hyn ar gof.
16Canys nid trwy lynu wrth chwedlau cywrain yr hysbysasom i chwi nerth ein Harglwydd ni Iesu Grist a’i ddyfodiad, eithr wedi dyfod yn llygad-dystion o’i fawrhydi ef.
17Canys derbyniodd oddi wrth Dduw Dad anrhydedd a gogoniant, pan ddaeth ato’r fath lef oddi wrth y mawr-ragorol ogoniant: “Fy mab, fy anwylyd yw hwn, yr ymddigrifais ynddo”
18— a dyna’r llef a glywsom ni’n dyfod allan o’r nef, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd.
19Ac y mae gennym yn sicrach air y proffwydi, y gwnewch yn dda drwy ddal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd a chodi o’r seren fore yn eich calonnau chwi;
20gan wybod hyn yn gyntaf peth, nad oes un broffwydoliaeth o Ysgrythur
21yn dyfod dan ddehongliad priod. Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth proffwydoliaeth gynt, ond dynion a lefarodd oddi wrth Dduw dan ddylanwad ysgubol yr Ysbryd Glân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.