1Wedi geni’r Iesu ym Methlehem Iwdea yn nyddiau Herod frenin, dyma ddewiniaid o’r dwyrain yn dyfod i Gaersalem,
2gan ddywedyd, “Pa le mae’r hwn a aned yn Frenin yr Iddewon? Canys gwelsom ei seren ef pan gododd, a daethom i’w addoli ef.”
3A phan glywodd y brenin Herod, fe’i cyffrowyd, a holl Gaersalem gydag ef;
4ac wedi casglu ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, ymofynnodd â hwynt pa le y genid y Crist.
5Dywedasant hwythau wrtho, “Ym Methlehem Iwdea; canys fel hyn y mae’n ysgrifenedig drwy’r proffwyd:
6 A thithau, Fethlehem tir Iwda,
nid lleiaf o gwbl wyt ymhlith llywodraethwyr Iwda;
canys ohonot ti y daw Arweinydd,
ac ef a fugeilia fy mhobl Israel.”
7Yna, wedi i Herod alw’r dewiniaid yn ddirgel, mynnodd wybod yn fanwl ganddynt am amser ymddangosiad y seren;
8ac anfonodd hwynt i Fethlehem, a dywedodd, “Ewch, a holwch yn fanwl am y plentyn, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y delwyf innau i’w addoli.”
9Hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant; a dyna’r seren a welsent pan gododd yn eu rhagflaenu, nes iddi ddyfod a sefyll uwchben y fan yr oedd y plentyn.
10Ac wedi canfod y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.
11Ac wedi dyfod i’r tŷ, gwelsant y plentyn gyda Mair ei fam, a syrthio a’i addoli; ac agorasant eu trysorau ac offrwm iddo anrhegion — aur a thus a myrr.
12Ac wedi eu rhybuddio oddi uchod mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, diangasant i’w gwlad ar hyd ffordd arall.
13Ac wedi iddynt ddianc, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Ioseff gan ddywedyd, ’“Cyfod, cymer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aifft, ac aros yno nes i mi ddywedyd wrthyt; canys y mae Herod ar fedr ceisio’r plentyn i’w ddistrywio.”
14Cododd yntau, a chymerth y plentyn a’i fam liw nos, a dianc i’r Aifft;
15a bu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, O’r Aifft y gelwais fy mab.
16Yna pan welodd Herod mai cellwair ag ef a wnaethai’r dewiniaid, fe ffromodd yn aruthr, ac anfonodd a lladd yr holl fechgyn a oedd ym Methlehem ac yn ei holl ororau o ddwyflwydd ac isod, yn ôl yr amser yr holodd yn fanwl amdano gan y dewiniaid.
17Yna y cyflawnwyd yr hyn a lefarwyd trwy Ieremïas y proffwyd:
18 Llef yn Rama a glywyd,
wylofain a galar mawr:
Rahel yn wylo am ei phlant,
ac ni fynnai ei chysuro, am nad ydynt.
19Ond wedi marw Herod, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Ioseff yn yr Aifft
20gan ddywedyd, “Cyfod a chymer y plentyn a’i fam, a dos i wlad Israel; canys meirw yw’r rhai a geisiai einioes y plentyn.”
21Cododd yntau, a chymerth y plentyn a’i fam, ac aeth i wlad Israel.
22Ond wedi clywed bod Archelaus yn teyrnasu yn Iwdea yn lle ei dad Herod, ofnodd fynd yno; ac wedi ei rybuddio oddi uchod mewn breuddwyd dihangodd i barthau Galilea,
23ac aeth i gartrefu mewn dinas a elwir Nasareth, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy’r proffwydi mai Nasaread y gelwid ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.