1 Pedr 3 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Yr un modd, ymostynged gwragedd i’w gwŷr priod, fel, os oes rhywrai’n anufuddhau i’r gair, yr eniller hwy, heb air, drwy rodiad y gwragedd,

2wedi canfod ohonynt eich rhodiad glân mewn ofn.

3Ac na boed iddynt yr addum allanol o blethu gwallt a gwisgo tlysau aur neu ymddilladu â gynau,

4eithr dirgel ddyn y galon yn niwyg anllygradwy ysbryd addfwyn a thawel, y sydd yng ngolwg Duw o ddirfawr werth.

5Canys felly hefyd yr addurnai eu hunain gynt y gwragedd sanctaidd a obeithiai yn Nuw, ac ymddarostwng i’w gwŷr priod,

6megis yr oedd Sara yn ufudd i Abram, a’i alw ef yn arglwydd, i’r hon y daethoch yn blant wrth wneuthur da a heb ofni dim dychryn.

7Y gwŷr, yr un modd, yn cyd-fyw â’r wraig yn ddeallus, megis â gwannach llestr, a rhoddi parch megis i rai sydd hwythau’n gyd-etifeddion gras bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau chwi.

8Yn olaf, boed pawb yn unfryd, yn cydymdeimlo, yn frawdol, yn dynergalon, yn ostyngedig,

9nid yn talu’n ôl ddrwg am ddrwg, neu sen am sen, eithr i’r gwrthwyneb yn bendithio, canys i hyn y’ch galwyd fel yr etifeddoch fendith.

10Canys yr hwn

sy’n ewyllysio caru bywyd

a gweled dyddiau da,

atalied y tafod rhag drwg

a’r gwefusau rhag dywedyd twyll,

11 cilied oddi wrth ddrwg a gwnaed dda,

ceisied heddwch a dilyned ef.

12Oblegid llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn

a’i glustiau ef tuag at eu deisyfiad hwynt,

ond wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y

rhai a wna ddrwg.

13A phwy a’ch dryga chwi os byddwch selog dros y da?

14Ond hyd yn oed pe dioddefech er mwyn cyfiawnder, gwyn eich byd. Nac ofnwch eu hofn hwynt ac na chyffroer chwi,

15eithr sancteiddiwch yn eich calonnau yr Arglwydd, sef y Crist, gan fod yn wastad yn barod i amddiffyn, i’r neb a gais gyfrif gennych, am y gobaith y sydd ynoch, eto gydag addfwynder ac ofn,

16a chennych gydwybod dda, fel yn yr hyn y’ch gogenir y cywilyddier y rhai sy’n cyhuddo ar gam eich rhodiad da chwi yng Nghrist.

17Canys gwell yw i rai ddioddef, os ewyllys Duw a’i myn, wrth wneuthur da nag wrth wneuthur drwg;

18oherwydd bu Crist hefyd farw unwaith am bechodau, y cyfiawn dros rai anghyfiawn, fel y dygai chwi at Dduw, wedi ei wneuthur yn farw yn y cnawd, ond ei fywhau yn yr ysbryd;

19trwy yr hwn hefyd yr aeth a phregethu i’r ysbrydion yng ngharchar

20a fu’n anufudd gynt pan ddisgwyliai hir amynedd Duw wrthynt yn nyddiau Noa tra adeiledid yr arch, i’r hon yr achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddwfr.

21Copi ohono sy’n awr yn eich achub chwithau, sef bedydd, nid bwrw ymaith fudredd cnawd, eithr ymofyn am gydwybod dda tuag at Dduw drwy atgyfodiad Iesu Grist,

22yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi iddo fyned i mewn i’r nef a darostwng iddo angylion ac awdurdodau a phwerau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help