1A phan agorodd y seithfed sêl, bu distawrwydd yn y nef am ynghylch hanner awr.
2A gwelais y saith angel sy’n sefyll gerbron Duw, a rhoddwyd iddynt saith utgorn.
3A daeth angel arall a safodd wrth yr allor, a chanddo thuser aur, a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer i’w gyflwyno gyda gweddïau’r holl saint ar yr allor aur o flaen yr orsedd.
4Ac esgynnodd mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint o law yr angel gerbron Duw.
5A chymerth yr angel y thuser, a llanwodd hi o dân yr allor a’i bwrw i’r ddaear; yna bu taranau a lleisiau a mellt a daeargryn.
6Ac ymbaratôdd y saith angel, yn dal y saith utgorn, i utganu.
7Ac utganodd y cyntaf; yna bu cenllysg a thân cymysgedig â gwaed, a bwriwyd i’r ddaear, a llosgwyd traean y ddaear, a llosgwyd traean y coed, a llosgwyd pob gwelltyn glas.
8Ac utganodd yr ail angel; yna bwriwyd i’r môr megis mynydd mawr ar dân, a thrôdd traean y môr yn waed,
9a bu farw draean y creaduriaid byw sydd yn y môr, a dinistriwyd traean y llongau.
10Ac utganodd y trydydd angel; yna syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel fflamdorch, a syrthiodd ar draean yr afonydd ac ar ffynhonnau’r dyfroedd.
11Ac enw’r seren yw Wermod; a thrôdd traean y dyfroedd yn wermod, a bu farw lawer o bobl o’r dyfroedd oherwydd eu chwerwi.
12Ac utganodd y pedwerydd angel; yna trawyd traean yr haul a thraean y lloer a thraean y sêr, fel y tywyllwyd eu traean hwynt ac nad ymddangosodd y dydd draean ohono, na’r nos yr un modd.
13Ac edrychais a chlywais eryr yn ehedeg yn entrych nef yn dywedyd â llais mawr: Gwae, gwae, gwae ar drigolion y ddaear oherwydd gweddill chwythiadau utgorn y tri angel sydd ar utganu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.