1Gan ein bod yn gyd-weithwyr yr ydym hefyd yn eich annog i beidio â derbyn gras Duw yn ofer.
2Canys dywed
Mewn amser cymeradwy y gwrandewais arnat
Ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais di.
Wele yn awr yr amser cymeradwy,
12Ni chyfyngir arnoch ynom ni, ond y mae’n gyfyng arnoch yn eich ymysgaroedd chwi.
13Fel y galloch dalu’r un faint yn ôl — megis wrth blant i mi y llefaraf — ymehengwch chwithau hefyd.
14Na ieuer chwi’n anghydweddol â rhai digred. Canys pa gydgyfranogiad a all fod rhwng cyfiawnder ac anghyfraith, neu beth sy’n gyffredin rhwng goleuni a thywyllwch?
15Pa gytgord sydd rhwng Crist a Beliar neu pa gyfran sydd i’r credadun gyda’r anghredadun?
16Pa gydfod sydd rhwng teml Dduw ac eilunod? Oblegid teml y Duw byw ydym ni, megis y dywedodd Duw:
Trigaf yn eu plith a rhodiaf yn eu canol,
A byddaf yn Dduw iddynt a byddant hwy yn bobl i mi.
17Am hynny
Ewch allan o’u canol hwynt
Ac ymwahenwch, medd yr Arglwydd,
Ac na chyffyrddwch â’r hyn sy’n aflan
A myfi a’ch derbyniaf chwi.
18A byddaf i chwi yn Dad
A byddwch chwi i mi yn feibion a merched,
Medd yr Arglwydd Hollalluog.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.