Philipiaid RHAGAIR - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

RHAGAIR Cyfieithwyd yr Epistol at y Philipiaid gan aelodau Pwyllgor Llanbedr, sef y Parch. Ganon Maurice Jones, Prifathro Coleg Dewi Sant (Llywydd), yr Athro R. H. Richards (Ysgrifennydd), y Parchn. W. H. Morgan, W. H. Harris, a D. D. Bartlett o’r un Coleg, y Parchn. Canon Ayron Jenkins ac Enoch Jones, Golygydd y Cyfaill Eglwysig.Dilynwyd testun Nestle, a chadwyd cyn agosed at y gwreiddiol ag oedd yn ddichonadwy. Ni newidiwyd yr hen gyfieithiad lle gellid osgoi hynny, oblegid, o graffu’n fanwl arno, daeth ei ragoriaethau’n amlycach nag erioed o’r blaen. Er ymgynghori’n fynych â’r Vulgate ac â chyfieithiadau William Salesbury a’r Canghellydd Briscoe, teimlad y Pwyllgor oedd mai cyfieithiad yr Esgob Morgan cyn ei newid gan yr Esgob Parry a roddes fwyaf o gymorth iddynt. Cyflwynir y gwaith i goffadwriaeth y tadau fel teyrnged o barch eu plant i’w llafur dihafal.At y Philipiaid
Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help