1 Corinthiaid 10 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Canys ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, fod ein tadau ni, bawb ohonynt, dan y cwmwl, a myned ohonynt oll drwy’r môr,

2a’u bedyddio oll i Foesen yn y cwmwl ac yn y môr.

3Bwytasant, bawb, yr un ymborth ysbrydol,

4ac yfasant bawb yr un ddiod ysbrydol. Canys yfent o’r graig ysbrydol, a’u dilynai, a’r graig oedd Crist.

5Eithr yn y rhan fwyaf ohonynt, ni foddlonwyd Duw, canys gwasgarwyd hwynt yn yr anialwch.

Num. 14:16.

6Digwyddodd y pethau hyn yn enghreifftiau i ni, fel na byddem ni chwenychwyr pethau drwg, megis y chwenychasant

Num. 11:34. hwy.

7Na byddwch ychwaith eilun-addolwyr, megis rhai ohonynt hwy. Megis y mae’n ysgrifenedig eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed a chodasant i chwarae.

Ecs. 32:6.

8Ac na odinebwn megis y godinebodd rhai ohonynt hwy, — ac fe syrthiodd mewn un diwrnod dair mil ar hugain.

9Ac na themtiwn yr Arglwydd megis y temtiodd rhai ohonynt hwy, a’u dinistrio gan y seirff.

10Ac na rwgnachwn megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, a’u dinistrio gan law’r dinistrydd.

11Digwyddai’r pethau hyn iddynt hwy yn null enghraifft, ac fe’u hysgrifennwyd er rhybudd i ni, y daeth arnom derfynau’r oesoedd.

12Am hynny, a dybio’i fod yn sefyll, edryched na syrthio.

13Nid ymaflodd ynoch chwi brofedigaeth namyn un ddynol. Ond ffyddlon yw Duw, ac ni ad ef eich profi chwi y tu hwnt i’ch gallu, eithr ynghŷd â’r brofedigaeth, fe rydd y ffordd allan hefyd, modd y galloch ymgynnal odditani.

14Am hynny, fy rhai annwyl, ffowch rhag eilun-addoliaeth.

15Megis wrth rai deallus y dywedaf. Bernwch chwithau a fynegaf.

16Cwpan y fendith, a fendithiwn, onid cyfranogiad yw o waed Crist? Y dorth, a dorrwn, onid cyfranogiad o gorff Crist ydyw?

17Canys un dorth, un corff ydym ni sy’n llawer. Canys pawb ohonom, o’r un dorth y cyfranogwn.

18Ystyriwch Israel yn ôl y cnawd. Onid yw’r rhai sy’n bwyta’r aberthau yn gyd-gyfrannog â’r allor?

19Beth, gan hynny, yw fy meddwl? — Bod aberth eilun yn rhywbeth? Ai bod eilun yn rhywbeth?

20Eithr a aberthant, mai i ddaimoniaid ac nid i Dduw yr aberthant.

Deut. 32:17. Ni fynnwn fod ohonoch yn gyfranogion â daimoniaid.

21Ni ellwch yfed cwpan yr Arglwydd a chwpan daimoniaid. Ni ellwch gyfranogi o fwrdd yr Arglwydd

Mal. 1:7. ac o fwrdd daimoniaid.

22Neu a gyffrown ni eiddigedd yr Arglwydd?

Deut. 32:21. Ai trech nag ef ydym ni?

23Y mae popeth yn gyfreithlon, ond nid yw popeth yn fuddiol. Y mae popeth yn gyfreithlon, ond nid yw popeth yn adeiladu.

24Na cheisied neb yr eiddo ef ei hun, eithr yr eiddo arall.

25Popeth a werthir yn y farchnad gig, bwytewch heb holi dim o ran cydwybod.

26Canys eiddo’r Arglwydd y ddaear a’i chyflawnder hi.

Salm 24:1.

27Os rhywun o blith y digred a’ch gwahodda, a chwithau’n dewis myned, popeth a osoder ger eich bron, bwytewch, heb holi dim o ran cydwybod.

28Ond os dywed rhywun wrthych: Aberth y cysegr yw hwn, na fwytewch, er mwyn hwnnw a alwodd sylw ac o ran cydwybod.

29Nid cydwybod un ei hun yr wyf yn ei feddwl, ond cydwybod y llall. Paham, atolwg, y bernir fy rhyddid i gan gydwybod arall?

30Od wyf i drwy ras yn cyfranogi, paham y’m melltithir i oherwydd y peth yr wyf yn talu diolch erddo?

31Am hynny, ai bwyta ai yfed, ai unpeth, a wneloch, gwnewch bopeth er gogoniant i Dduw.

32Byddwch ddi-dramgwydd i Iddewon ac i Roegiaid, ac i eglwys Dduw,

33megis yr wyf innau hefyd yn rhyngu bodd i bawb ym mhob dim, heb geisio fy lles fy hun, eithr lles y lliaws fel y byddont gadwedig.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help