Hosea 8 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1At dy safn â’r utgorn!

Fel eryr yn erbyn tŷ Iafe!

Oherwydd torasant fy nghyfamod,

A throseddasant yn erbyn fy nghyfarwyddyd.

2Gwaeddant arnaf “Fy Nuw,

Nyni Israel a’th adwaenom.”

3Gwrthododd Israel ddaioni,

Ymlid gelyn ef.

4Gwnaethant hwy frenin, ond nid trwof fi;

Gwnaethant dywysog, ond nis gwyddwn;

Gweithiasant eu harian a’u haur yn eilunod iddynt,

Fel y torrid hwynt ymaith.

5Gwrthodwyd dy lo, Samaria.

Enynnodd fy nigllonedd yn eu herbyn.

Pa hyd y methant â bod yn ddiniwed?

6Canys o Israel y mae yntau hefyd,

Crefftwr a’i gwnaeth, ac nid duw mohono,

Eithr bydd llo Samaria yn yfflon.

7Oblegid heuant wynt a medant gorwynt;

Gwelltyn yw, heb iddo flaguryn, ni wna flawd;

A phes gwnelai, dieithriaid a’i llyncai.

8Llyncwyd Israel,

Y maent eisoes ymysg y cenhedloedd

Fel llestr heb hoffter ynddo;

9Canys aethant hwy i fyny i Asyria,

Asyn gwyllt yn myned wrtho ’i hun,

Cyflogodd Effraim gariadau.

10Eto er iddynt gyflogi ymysg y cenhedloedd,

Yn awr cynullaf hwynt,

A dechreuant leihau oblegid baich brenin tywysogion.

11Oherwydd i Effraim amlhau allorau i bechu,

Aethant iddo yn allorau i bechu.

12Er imi sgrifennu iddo aneirif bethau fy nghyfarwyddyd,

Fel dieithrbeth y cyfrifwyd hwynt.

13Yn ebyrth fy rhoddion aberthant gig a bwytânt;

Nid yw Iafe fodlon arnynt;

Yn awr y cofia eu hanwiredd,

Ac y gofwya eu pechodau,

Dychwelant hwythau i’r Aifft.

14Canys anghofiodd Israel ei wneuthurwr,

Ac adeiladodd blasau,

Ac amlhaodd Iwda ddinasoedd caerog,

Anfonaf innau dân drwy ei ddinasoedd,

Ac fe ŷs ei gestyll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help