Hebreaid 2 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Am hynny rhaid i ni ddal llwyrach sylw ar y pethau a glybuwyd, rhag digwydd rywdro i ni fyned heibio gyda’r llif.

2Canys os oedd y gair a lefarwyd drwy angylion yn safadwy, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod gyfiawn dâl,

3pa fodd y dihangwn ni os byddwn ddibris o iachawdwriaeth mor fawr? — yr hon wedi cael ei dechreuad yn ymadrodd yr Arglwydd, a gadarnhawyd i ni gan y rhai a’i clywodd,

4a Duw yn cyd-dystio drwy arwyddion a rhyfeddodau ac amryfal nerthoedd ac amryw gyfraniadau o’r Ysbryd Glân yn ôl ei ewyllys.

5Canys nid i’r angylion y darostyngodd ef y byd a ddaw yr ydym yn sôn amdano.

6Tystiodd rhywun yn rhywle a dywedyd:

“Beth yw dyn fel y cofit amdano?

neu fab dyn fel y dalit sylw arno?

7 Gwnaethost ef ryw ychydig yn is na’r angylion,

â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef,

8 darostyngaist bopeth o dan ei draed ef.”

Canys wrth ddywedyd “darostwng popeth” iddo ni adawodd ddim yn annarostyngedig iddo. Ond hyd yn hyn nid ydym yn gweled popeth wedi eu darostwng.

9Ond am yr hwn sydd wedi ei wneuthur ryw ychydig yn is na’r angylion, yr ydym yn gweled Iesu, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, fel trwy ras Duw y byddai profiad ei farwolaeth dros bob dyn.

10Canys gweddai iddo ef, yr hwn y mae popeth erddo a phopeth trwyddo, ar ôl iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio pennaeth eu hiachawdwriaeth hwy drwy ddioddefiadau.

11Canys yr hwn sydd yn santeiddio a’r rhai a santeiddir, o’r un y maent yn hanfod oll. Dyna’r achos nad oes arno gywilydd eu galw hwy yn frodyr,

12gan ddywedyd:

“Cyhoeddaf dy enw i’m brodyr,

yng nghanol y gynulleidfa y canaf fawl i ti,”

13a thrachefn,

“Minnau, ynddo ef y bydd f’ymddiried,”

a thrachefn,

“Wele fi a’r plant a roddes Duw i mi.”

14Gan fod y plant, felly, yn gyfranogion o gig a gwaed, aeth yntau hefyd mewn cyffelyb fodd yn gyfrannog ohonynt, fel trwy farwolaeth y diddymai yr hwn a oedd yn meddu arglwyddiaeth ar farwolaeth — hynny yw, y diafol —

15ac fel y rhyddhâi’r rhai oedd drwy ofn marwolaeth ar hyd eu hoes yng ngafael caethiwed.

16Canys, bid sicr, nid yn yr angylion y mae’n ymaflyd, ond ymaflyd yn had Abraham y mae.

17O ganlyniad, yr oedd yn rhaid iddo gael ei wneuthur yn debyg i’w frodyr ym mhob peth, fel y byddai dosturiol, a ffyddlon archoffeiriad yn y pethau a berthyn i Dduw, i wneuthur dyhuddiant am bechodau’r bobl;

18canys am ddioddef ohono ei hunan trwy ei brofi, am hynny y gall ef gynorthwyo’r rhai sydd dan y prawf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help