1A rhoddwyd imi gorsen debyg i ffon, gan ddywedyd: Cyfod a mesur gysegr Duw a’r allor a’r addolwyr yno.
2A’r cyntedd tu allan i’r cysegr gad allan, na fesur hwnnw; canys rhoddwyd ef i’r ethnig, a’r ddinas sanctaidd a fathrant ddeufis a deugain.
3A rhoddaf i’m dau dyst broffwydo fil deucant a thrigain o ddyddiau a sachliain amdanynt.
4Dyna’r ddwy olewydden a’r ddau ganhwyllbren sy’n sefyll gerbron Arglwydd y ddaear.
5Ac os myn neb eu niweidio, daw tân allan o’u genau a difa eu gelynion. Ac os myn neb eu niweidio, fel hynny rhaid yw ei ladd ef.
6Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gloi’r nef fel na fwrio law dros ddyddiau eu proffwydo hwynt, ac y mae ganddynt awdurdod ar y dyfroedd i’w troi’n waed ac i daro’r ddaear â phob rhyw bla mor aml ag y mynnont.
7A phan orffennont eu tystiolaeth, rhyfela’r bwystfil a gyfyd o Annwn yn eu herbyn a gorchfyga hwynt a’u lladd.
8A bydd eu cyrff hwynt ar heol y ddinas fawr, a elwir o’i hysbrydoli Sodom ac Aifft, lle hefyd y croeshoeliwyd eu Harglwydd.
9Ac edrychir ar eu cyrff hwynt dri diwrnod a hanner gan bobloedd a llwythau ac ieithoedd a chenhedloedd, ac ni chaniatânt ddodi eu cyrff hwynt mewn bedd.
10A llawenha preswylwyr y ddaear o’u plegid ac ymfalchïant, ac anfonant roddion i’w gilydd, oherwydd poenodd y ddau broffwyd hyn breswylwyr y ddaear.
11Ac ymhen y tri diwrnod a hanner aeth anadl bywyd oddi wrth Dduw i mewn iddynt, safasant hwythau ar eu traed, a disgynnodd ofn mawr ar yr edrychwyr.
12A chlywsant lef uchel o’r nef yn dywedyd wrthynt: Deuwch i fyny yma; ac aethant i fyny i’r nef yn y cwmwl, ac edrychai eu gelynion arnynt.
13A’r awr honno bu daeargryn mawr, a syrthiodd ’y ddegfed ran o’r ddinas, a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o bersonau, a brawychodd y gweddill a rhoddasant ogoniant i Dduw’r nef.
14Aeth yr ail wae heibio; wele’r trydydd gwae yn dyfod ar fyrder.
15Ac utganodd y seithfed angel; yna bu lleisiau uchel yn y nef yn dywedyd:
Aeth brenhiniaeth y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a’i Grist ef, a theyrnasa yn oes oesoedd.
16A’r pedwar henuriad ar hugain, sy’n eistedd ar eu gorseddau gerbron Duw, syrthiasant ar eu hwynebau, ac addolasant Dduw
17gan ddywedyd:
Diolchwn i ti, Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn sydd a’r hwn oedd, am ymaflyd ohonot yn dy fawr allu a theyrnasu;
18a llidiodd y cenhedloedd, a daeth dy lid di ac adeg barnu’r meirw a rhoddi’r wobr i’th weision y proffwydi ac i’r saint ac i’r sawl sy’n ofni dy enw, y bychain a’r mawrion, ac i ddinistrio dinistrwyr y ddaear.
19Ac agorwyd teml Dduw sydd yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml, a bu mellt a lleisiau a tharanau a daeargryn a chenllysg mawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.