Actau'r Apostolion 10 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A rhyw ŵr yng Nghesarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r fintai a elwid mintai’r Eidal,

2gŵr defosiynol, a oedd ynghyd â’i holl deulu yn ofni Duw, un a wnâi elusenau lawer i’r bobl ac a weddïai ar Dduw’n wastadol,

3gwelodd mewn gweledigaeth yn eglur tua’r nawfed awr o’r dydd angel Duw yn dyfod i mewn ato ac yn dywedyd wrtho, “Cornelius.”

4Yntau a syllodd arno, a chan frawychu a ddywedodd, “Beth sydd, Arglwydd?” A dywedodd wrtho, “Esgynnodd dy weddïau a’th elusenau yn offrwm coffa ger bron Duw;

5ac yn awr anfon wŷr i Ioppa a gyr am Simon, un a gyfenwir Pedr;

6y mae hwn yn lletya gyda rhyw Simon, barcer, sydd â’i dŷ ar lan y môr.”

7Ac wedi i’r angel a lefarai wrtho ymadael, galwodd ddau o’r gweision tŷ a milwr defosiynol, un o’i weision agos,

8ac wedi adrodd y cwbl iddynt anfonodd hwynt i Ioppa.

9A thrannoeth, a’r rhain ar eu taith ac yn dynesu at y ddinas, fe esgynnodd Pedr i ben y tŷ i weddïo tua’r chweched awr.

10Ac fe aeth yn newynog, a dymunai gael bwyd; ac wrth eu bod yn paratoi daeth arno lewyg,

11ac y mae’n gweled y nef yn agored a rhyw lestr yn disgyn megis llenlliain fawr, a ollyngid wrth bedair congl tua’r ddaear;

12ac ynddo yr oedd holl bedwarcarnolion ac ymlusgiaid y ddaear ac adar y nef.

13A daeth llef ato, “Cyfod, Pedr, lladd a bwyta.”

14A dywedodd Pedr, “Na, na, Arglwydd; canys ni fwyteais erioed ddim cyffredin ac aflan;”

15Ac meddai’r llef drachefn eilwaith wrtho, “Yr hyn a wnaed yn lân gan Dduw, na foed gyffredin gennyt ti.”

16A hyn a fu deirgwaith, ac yna cymerwyd y llestr i fyny i’r nef.

17Ac fel yr oedd Pedr mewn penbleth ynddo’i hun beth a allai’r weledigaeth a welsai fod, dyma’r gwŷr a anfonwyd gan Gornelius, wedi iddynt ofyn am dŷ Simon, yn dyfod a sefyll yn y cyntedd,

18ac wedi galw gofynasant a oedd Simon a gyfenwid Pedr yn lletya yno.

19A thra oedd Pedr yn synfyfyrio ar y weledigaeth dywedodd yr Ysbryd, “Dyma ddau ŵr yn dy geisio;

20da di, cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt heb amau dim, oherwydd myfi a’u hanfonodd hwynt.”

21Ac wedi i Bedr ddisgyn at y gwŷr fe ddywedodd, “Dyma fi, yr hwn a geisiwch; beth yw’r achos am eich dyfod?”

22Dywedasant hwythau, “Cornelius, canwriad, gŵr cyfiawn, sy’n ofni Duw ac sydd â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd oddiuchod gan angel santaidd i ddanfon amdanat i’w dŷ ac i glywed pethau gennyt.”

23Felly gwahoddodd hwynt i mewn a’u lletya. A thrannoeth cyfododd ac aeth ymaith gyda hwynt, ac aeth rhai o’r brodyr oedd yn Ioppa gydag ef.

24Ac ail trannoeth aeth i mewn i Gesarea. A Chornelius oedd yn eu disgwyl, wedi galw ynghyd ei geraint a’i gyfeillion agos.

25Ac wedi i Bedr ddyfod i mewn, fe gyfarfu Cornelius ag ef, a syrthio wrth ei draed, a’i addoli.

26Ond cyfododd Pedr ef, gan ddywedyd, “Cyfod; dyn wyf finnau hefyd.”

27Ac aeth i mewn dan ymddiddan ag ef, a chael llawer wedi ymgynnull,

28ac meddai wrthynt, “Gwyddoch chwi mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymgyfeillach neu ymweled ag estron; eto dangosodd Duw i mi na alwn neb dyn yn gyffredin neu aflan.

29Am hynny y deuthum yn ddinâg, pan yrrwyd amdanaf. Gofynnaf, felly, paham y gyrasoch amdanaf.”

30Ac ebe Cornelius, “Pedwar diwrnod i’r awr hon yr oeddwn ar weddi’r nawfed awr yn fy nhŷ, a dyna ŵr yn sefyll ger fy mron mewn gwisg ddisglair,

31ac medd ef, ‘Cornelius, clywyd dy weddi di a galwyd dy elusenau i gof gan Dduw;

32anfon, gan hynny, i Ioppa, a galw am Simon, a gyfenwir Pedr; y mae hwnnw’n lletya yn nhŷ Simon, barcer, ar lan y môr.’

33Felly ar unwaith yr anfonais atat, a thithau, gwelaist yn dda ddyfod. Yn awr, ynteu, yr ŷm i gyd yma ger bron Duw, i glywed popeth a orchmynnwyd i ti gan yr Arglwydd.”

34Ac agorodd Pedr ei enau, a dywedodd, “Deallaf yn wir nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb,

Deut. 10:17.

35eithr ym mhob cenedl y neb a’i hofno ef ac a weithredo gyfiawnder, derbyniol yw ganddo.

36Ei air a anfonodd i feibion Israel,

Salm 147:18–19. gan gyhoeddi efengyl tangnefedd

Esa. 52:7. trwy Iesu Grist; Arglwydd pawb yw ef.

37Gwyddoch chwi’r hanes a fu drwy holl Iwdea, — i ddechrau, yng Ngalilea wedi’r bedydd a gyhoeddodd Ioan, — am Iesu o Nasareth,

38y modd yr eneiniodd Duw ef â’r Ysbryd

Esa. 61:1. Glân ac â nerth, yr hwn a aeth o gwmpas gan wneuthur daioni ac iacháu pawb a oedd dan ormes y diafol, am fod Duw gydag ef.

39A ninnau, tystion ydym o’r holl bethau a wnaeth yng ngwlad yr Iddewon a Chaersalem; a’i ladd a wnaethant, gan ei grogi ar bren.

Deut. 21:22.

40Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, a pheri gallu ei weled,

41nid gan yr holl bobl ond gan dystion a ragetholasid gan Dduw, nyni, y rhai a fu’n cydfwyta ac yn cydyfed ag ef wedi iddo atgyfodi o feirw.

42Ac fe orchmynnodd i ni gyhoeddi i’r bobl a dwys dystiolaethu mai hwn a benodwyd gan Dduw yn farnwr byw a meirw.

43I hwn y tystia’r holl broffwydi, gael o bawb a gredo ynddo faddeuant pechodau trwy ei enw.”

44A Phedr eto’n llefaru’r pethau hyn, disgynnodd yr Ysbryd Glân ar bawb a glywai’r gair.

45A synnodd y credinwyr enwaededig, a ddeuthai gyda Phedr, am fod tywallt dawn yr Ysbryd Glân hyd yn oed ar y cenhedloedd;

46canys clywent hwynt yn llefaru â thafodau ac yn mawrygu Duw. Yna atebodd Pedr,

47“A all neb warafun y dŵr i fedyddio’r rhai hyn, a gafodd yr Ysbryd Glân fel ninnau?”

48A gorchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw Iesu Grist. Yna gofynasant iddo aros rai dyddiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help