1Jwdas, caethwas Iesu Grist, a brawd Iago, at y rhai sydd wedi eu caru yn Nuw Dad ac wedi eu cadw i Grist Iesu, etholedigion.
2Amlhaer trugaredd i chwi, a thangnefedd a chariad.
3Anwyliaid, a mi’n gwneuthur pob ymdrech i sgrifennu atoch ynghylch ein hiachawdwriaeth gyffredin, daeth anghenraid arnaf i sgrifennu atoch i’ch annog i ymegnïo dros y ffydd a draddodwyd unwaith i’r saint.
4Canys llithrodd i mewn yn ddirgel rai dynion a ddynodwyd ers talm i’r farnedigaeth hon, annuwiolion, yn gŵyrdroi gras ein Duw ni i anlladrwydd ac yn gwadu’r unig Feistr a’n Harglwydd ni Iesu Grist.
5Dymunaf eich atgoffa chwi, er gwybod ohonoch bopeth unwaith am byth, i’r Arglwydd, wedi iddo waredu’r bobl o dir yr Aifft, ddinistrio yn ôl llaw y rhai ni chredasant,
6a’r angylion na chadwasant eu tywysogaeth eu hunain eithr a adawodd eu preswyl priodol, eu bod ganddo yng nghadw mewn gefynnau tragwyddol mewn tywyllwch i aros barn y dydd mawr.
7Megis y gosodwyd Sodom a Gomorrah a’r dinasoedd o’u hamgylch, a ymroddodd i buteindra yn yr un modd â hwynt, a myned ar ôl cnawd dieithr, yn esiampl gan ddioddef cosbedigaeth tân tragwyddol.
8Yr un modd er hynny y mae’r rhain yn eu breuddwydion yn halogi’r cnawd, yn dirmygu arglwyddiaeth ac yn cablu bodau gogoneddus.
9Ond ni feiddiodd Michael yr archangel pan ddadleuai ynghylch corff Moses, mewn ymryson â’r diafol, ddwyn barn sarhaus yn ei erbyn ef, eithr dywedodd, Cerydded yr Arglwydd di.
10Ond am y rhain, cablant y pethau na wyddant, a’r pethau hynny a ddeallant drwy reddf fel y creaduriaid direswm, ynddynt yr ymlygrant.
11Gwae hwy! canys aethant yn ffordd Cain; ac ymroesant am gyflog i gyfeiliomad Balam, a darfu amdanynt yn ymryson Cora.
12Dyma’r creigiau cuddiedig yn eich cariad-wleddoedd sy’n cydwledda’n eofn gyda chwi, yn eu bugeilio eu hunain, cymylau di-ddwfr a yrrir gan wyntoedd, prennau hydref, di-ffrwyth, wedi marw ddwywaith a’u diwreiddio,
13tonnau cynddeiriog y môr yn ewynnu eu cywilydd eu hunain, sêr gwibiog, i’r rhai y mae yng nghadw ddüwch y tywyllwch dros byth.
14Proffwydodd amdanynt hwy hefyd Enoch, y seithfed o Adda, a dywedyd, Wele, daeth yr Arglwydd gyda’i fyrddiynau sanctaidd
15i wneuthur barn ar bawb ac i argyhoeddi’r holl annuwiolion am yr holl weithredoedd a wnaethant, ac am yr holl bethau celyd a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef.
16Grwgnachwyr ydyw’r rhain, tuchanwyr, yn rhodio yn ôl eu blysiau eu hunain, a’u genau sydd yn dywedyd pethau chwyddedig, yn gwenieithio er mwyn elw.
17Eithr chwi, anwyliaid, cofiwch yr ymadroddion a lefarwyd o’r blaen gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist,
18iddynt ddywedyd wrthych: “Yn yr amser diwethaf daw gwatwarwyr yn rhodio yn ôl eu blysiau annuwiol eu hunain.”
19Dyma’r dynion sy’n peri rhwygiadau, pobl gnawdol, heb fod yr Ysbryd ganddynt.
20Eithr chwi, anwyliaid, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo drwy’r Ysbryd Glân,
21cedwch eich hunain yng nghariad Duw gan ddisgwyl am drugaredd ein Harglwydd ni, Iesu Grist, i fywyd tragwyddol.
22Ac wrth y sawl sy’n ymryson â chwi, trugarhewch; achubwch hwynt a’u cipio o’r tân;
23ond wrth eraill trugarhewch mewn ofn, gan gasáu hyd yn oed y wisg a ddifwynwyd gan y cnawd.
24I’r hwn sy’n abl i’ch cadw chwi’n ddi-gwymp a’ch gosod yn ddinam gerbron ei ogoniant ef mewn gorfoledd,
25i’r unig Dduw ein Hachubwr ni trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y bo gogoniant, mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn bod pob oes, ac yn awr, a thrwy’r holl oesoedd. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.