1 Corinthiaid 6 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A faidd neb ohonoch, a chanddo achos yn erbyn arall, ei osod i’w farnu gan yr anghyfiawn yn hytrach na chan y saint?

2Oni wyddoch mai’r saint sydd i farnu’r byd? Ac os ger eich bron chwi y bernir y byd, a ydych yn anheilwng i farnu’r achosion distadlaf oll?

3Oni wyddoch y barnwn ni angylion heb sôn am bethau’r bywyd beunyddiol?

4Am hynny, o bydd gennych achosion yn perthyn i’r bywyd beunyddiol i’w barnu, ai y rhai hollol ddiddim yng ngolwg yr eglwys — ai y rheiny a osodwch yn sedd barn?

5Er cywilydd i chwi y llefaraf. Onid oes, felly, yn eich plith neb doeth a fydd yn abl i farnu rhwng ei frawd?

6Eithr y mae brawd yn ymgyfreithio â brawd a hynny ger bron y digred?

7Y gwir yw mai diffyg ynoch eisoes yn ddiau yw bod gennych gyfraith â’ch gilydd; paham na oddefwch gam yn hytrach? Paham na oddefwch yn hytrach eich ysbeilio?

8Eithr yr ydych chwi yn gwneuthur cam, ac yn ysbeilio, a hynny â brodyr.

9Oni wyddoch na bydd i’r anghyfiawn ran yn nheyrnas Dduw? Na’ch camarweinier; ni chaiff rhai anllad nac eilunaddolwyr na thorwyr priodas na rhai meddal-gnawdol na sodomiaid

10na lladron na chybyddion na meddwon na difenwyr na chribddeilwyr ran yn nheyrnas Dduw.

11A’r pethau hyn oeddych, rai ohonoch; eithr ymolchasoch, eithr fe’ch sancteiddiwyd, eithr fe’ch gwnaed yn gyfiawn yn enw yr Arglwydd Iesu Grist a thrwy ysbryd ein Duw.

12Y mae pob peth yn rhydd i mi, ond nid yw pob peth yn lleshau; rhydd yw pob peth i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim.

13Y bwydydd i’r bola, a’r bola i’r bwydydd, ond diddyma Duw y naill a’r llall. A’r corff, nid yw i odineb, ond i’r Arglwydd, a’r Arglwydd i’r corff.

14Ond fe gyfododd Duw yr Arglwydd, ac fe’n cyfyd ninnau hefyd trwy ei nerth ei hun.

15Oni wyddoch mai aelodau Crist yw’ch cyrff chwi? Felly, a gymeraf i aelodau Crist, a’u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw!

16Oni wyddoch fod y neb a gydio â phutain yn un corff? Canys, medd ef, un cnawd fydd y ddau.

Eff. 5:31.

17Ond y neb a ymgysyllto â’r Arglwydd, un ysbryd yw.

18Ymogelwch rhag godineb. Pob pechod a wnêl dyn, y tu allan i’r corff y mae, ond y sawl a odinebo, yn erbyn ei gorff ei hun y mae’n pechu.

19Tybed na wyddoch fod eich corff chwi yn gafell i’r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn sydd eiddoch gan Dduw, ac nad eiddoch eich hunain mohonoch?

20Canys er gwerth y’ch prynwyd, felly gogoneddwch Dduw yn eich corff.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help