1Ac wedi pum niwrnod daeth Ananias, yr Archoffeiriad, i lawr gyda rhai henuriaid ac un Tertylus, dadleuydd, a rhoesant hysbysrwydd i’r rhaglaw yn erbyn Paul.
2Ac wedi ei alw ef ger bron, dechreuodd Tertylus ei gyhuddo gan ddywedyd,
3“Heddwch mawr a gawn trwot ti, a gwelliannau sydd i’r genedl hon trwy dy ddarbodaeth ym mhob modd ac ym mhob man, a derbyniwn hwynt, ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolchgarwch.
4Eithr rhag i mi dy rwystro di ymhellach, yr wyf yn deisyf arnat o’th hynawsedd wrando arnom ar fyr eiriau.
5Ni gawsom y gŵr yma yn bla, ac yn codi ymrysonau ymhlith yr holl Iddewon trwy’r byd, ac yn ben ar sect y Nasareaid;
6fe wnaeth gynnig hyd yn oed ar halogi’r Deml,
7a chymerasom afael ynddo;
8a thi elli di dy hun, wedi ei holi, gael gwybod ganddo am yr holl bethau hyn y cyhuddwn ni ef amdanynt.”
9A chyd-ymosododd yr Iddewon hefyd, gan ddywedyd mai felly yr oedd hyn.
10Ac atebodd Paul, wedi i’r rhaglaw amneidio arno i lefaru: “Gan wybod dy fod di ers llawer blwyddyn yn farnwr i’r genedl hon, yn hyderus y gwnaf fy amddiffyn amdanaf fy hun,
11am y gelli wybod nad oes fwy na deuddeng niwrnod er pan euthum i fyny i addoli yng Nghaersalem,
12ac ni’m cawsant i yn ymddiddan â neb neu yn peri cydfwriad tyrfa nac yn y Deml nac yn y synagogau nac yn y ddinas,
13ac ni allant roi prawf i ti am y cyhuddiadau a ddygant yn awr yn fy erbyn i.
14Ond hyn a gyffesaf i ti, mai yn ôl y Ffordd, a alwant hwy yn sect, felly yr addolaf Dduw ein tadau, gan gredu pob peth sydd yn ôl y Ddeddf ac sy’n ysgrifenedig yn y Proffwydi,
15a chennyf obaith yn Nuw — yr hyn a dderbyniant hwy eu hunain hefyd — fod atgyfodiad i fod i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn.
16Yn hyn yr wyf finnau hefyd yn ymarfer i fod â chydwybod ddianaf ger bron Duw a dynion yn wastad.
17Ac ar ôl amryw flynyddoedd i wneuthur elusenau i’m cenedl y deuthum, ac offrymau,
18ac ynglŷn â’r rhain y’m cawsant i yn y Deml wedi ymlanhau, nid gyda thorf na therfysg;
19ond rhai Iddewon o Asia, a ddylasai fod yma ger dy fron di i’m cyhuddo i, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn, —
20neu dyweded y rhain yma pa gamwedd, a gawsant ynof pan sefais ger bron y Sanhedrin,
21onid am yr un llef honno a waeddais pan safwn yn eu plith, ‘Am atgyfodiad y meirw y’m bernir i heddiw gennych chwi.’ ”
22Ond gohiriodd Ffelix eu hachos, ac yntau’n gwybod yn lled fanwl am y Ffordd, gan ddywedyd, “Pan ddêl Lysias y capten i lawr, mi benderfynaf eich mater.”
23A gorchmynnodd i’r canwriad ei gadw, ond cael ohono ysgafnhad, heb rwystro i neb o’r eiddo weini arno.
24Ac wedi rhai dyddiau fe ddaeth Ffelix gyda Drwsila, ei wraig, yr hon oedd Iddewes, ac fe anfonodd am Baul, ac fe’i gwrandawodd ynghylch y ffydd yng Nghrist Iesu.
25Ac fel yr oedd yntau yn ymresymu ynghylch cyfiawnder a diweirdeb a’r farn a fyddai, fe ddychrynodd Ffelix ac atebodd, “Ar hyn o bryd dos, ac wedi i mi gael amser cyfleus fe alwaf amdanat.”
26Yr un pryd gobeithio yr oedd y rhoddid arian iddo gan Baul; oblegid hynny anfonai amdano yn lled fynych, ac ymddiddan ag ef.
27Ond ymhen ysbaid o ddwy flynedd derbyniodd Ffelix yn olynydd iddo Borcius Ffestus; a chan yr ewyllysiai osod yr Iddewon dan rwymau iddo, gado Paul yn garcharor a wnaeth Ffelix.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.