1Pawl a Silfan a Thimotheus at Eglwys y Thesaloniaid yn Nuw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist. Gras i chwi a thangnefedd.
2Diolchwn i Dduw yn wastadol amdanoch oll wrth eich cofio yn ein gweddïau;
3canys cofiwn yn ddibaid gerbron Duw a’n Tad eich gwaith ffydd, eich llafur cariad, a’ch dioddefgarwch yn y gobaith sydd yn ein Harglwydd Iesu Grist;
4a gwyddom, frodyr annwyl gan Dduw, eich ethol chwi: oblegid daeth ein hefengyl atoch,
5nid mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân a chydag argyhoeddiad llawn — a gwyddoch y fath ddynion a fuom ni i chwi er eich mwyn chwi.
6A chwithau a aethoch i’n hefelychu ni a’r Arglwydd, trwy dderbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân;
7hyd onid aethoch yn esiampl i bawb sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia;
8canys oddi wrthych chwi y datseiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia ac Achaia, eithr ym mhobman yr aeth eich ffydd tuag at Dduw ar led fel nad oes raid i ni ddywedyd dim;
9canys edrydd pobl ohonynt eu hunain amdanom ni, y fath ddyfodiad a gawsom i’ch plith, a’r modd y troesoch at Dduw oddi wrth yr eilunod i wasanaethu Duw byw a gwirioneddol,
10ac i ddisgwyl Ei Fab o’r nefoedd, yr Hwn a gyfododd Ef o blith y meirw, Iesu sydd yn ein gwaredu oddi wrth y llid sydd yn dyfod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.