Actau'r Apostolion 15 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A daeth rhai i lawr o Iwdea a dechrau dysgu’r brodyr: “Onid enwaedir arnoch yn ôl defod Moesen, ni ellir eich cadw.”

2A chan fod ymryson ac ymddadlau nid bychan rhwng Paul a Barnabas a hwythau, penderfynwyd i Baul a Barnabas a rhai eraill ohonynt fynd i fyny at yr apostolion a’r henuriaid yng Nghaersalem ynghylch y cwestiwn yma.

3Felly danfonwyd hwynt gan yr eglwys, a theithient trwy Phoenice a Samaria, gan adrodd hanes troi’r cenhedloedd, a pheri mawr lawenydd i’r holl frodyr.

4Ac wedi iddynt gyrraedd Caersalem derbyniwyd hwynt gan yr eglwys a’r apostolion a’r henuriaid, a mynegasant gymaint a wnaethai Duw gyda hwynt.

5Ond cyfododd rhai o sect y Phariseaid — rhai a oedd wedi credu — gan ddywedyd bod yn rhaid iddynt enwaedu, ac erchi cadw deddf Moesen.

6Ymgynullodd yr apostolion a’r henuriaid i weld ynghylch y mater yma.

7Ac wedi bod ymddadlau mawr, dywedodd Pedr wrthynt, “Frodyr, gwyddoch chwi i Dduw er y dyddiau cyntaf ddewis yn eich plith fod i’r Cenhedloedd glywed gair yr efengyl trwy fy ngenau i a chredu,

8a’r Duw a ŵyr galonnau a ddug dystiolaeth iddynt trwy roddi iddynt hwy yr Ysbryd Glân megis i ninnau,

9ac ni wahaniaethodd ddim rhyngom ni a hwythau pan burodd eu calonnau hwynt trwy ffydd.

10Yn awr, ynteu, paham y rhowch brawf ar Dduw; — dodi ar warr y disgyblion iau na allodd ein tadau na ninnau mo’i dwyn?

11eithr credwn yr un fath â hwythau, mai trwy ras yr Arglwydd Iesu y’n cadwyd.”

12A thawodd yr holl liaws, a gwrandawent ar Farnabas a Phaul yn mynegi gymaint a wnaethai Duw o arwyddion a rhyfeddodau ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy.

13Ac wedi iddynt hwythau dewi atebodd Iago, gan ddywedyd, “Frodyr, gwrandewch arnaf fi.

14Mynegodd Simeon y modd y gofalodd Duw gyntaf gael o blith y Cenhedloedd bobl ar ei enw.

15Ac â hyn y cytuna geiriau’r proffwyd, megis y mae’n ysgrifenedig:

16 Wedi hyn y dychwelaf,

ac adeiladaf drachefn babell syrthiedig Dafydd,

a’i hadfeilion a adeiladaf drachefn,

a chyweiriaf hi o newydd,

17 fel y chwilio’r rhelyw o ddynion am yr Arglwydd,

a’r holl genhedloedd y rhoddwyd fy enw i arnynt,

medd yr Arglwydd, gan wneuthur y

pethau hyn

18yn hysbys erioed.

19Felly fy marn i yw na ddaliom i boeni y rhai o blith y Cenhedloedd a dry at Dduw,

20eithr ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw oddiwrth offrymau halogedig y delwau ac oddiwrth anniweirdeb ac oddiwrth y peth a dagwyd ac oddiwrth waed;

21canys y mae i Foesen er yr oesau cyntaf ym mhob dinas rai sy’n ei bregethu, ac yr ydys yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth.”

22Yna penderfynodd yr apostolion a’r henuriaid ynghyd â’r holl eglwys ethol gwŷr o’u nifer a’u hanfon i Antiochia gyda Phaul a Barnabas; sef Iwdas, a elwid Barsabbas, a Silas, gwŷr blaenllaw ymhlith y brodyr;

23a rhoi llythyr yn eu llaw: “Y brodyr o apostolion a henuriaid, at y brodyr sydd o’r Cenhedloedd yn Antiochia a Syria a Chilicia, henffych well.

24Oherwydd inni glywed i rai ohonom eich cythryblu ac ansefydlu eich meddyliau â geiriau, heb gael ohonynt orchymyn gennym ni,

25penderfynasom yn unfryd ethol gwŷr a’u hanfon atoch gyda’n hanwyliaid, Barnabas a Phaul,

26dynion a gysegrodd eu bywyd dros enw ein Harglwydd Iesu Grist.

27Anfonwn gan hynny Iwdas a Silas, i fynegi, hwythau, yr un pethau ar air.

28Gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glân a chennym ninnau na ddodid arnoch ddim ychwaneg o faich, oddieithr y pethau anhepgor hyn;

29ymgadw oddiwrth yr hyn a aberthwyd i ddelwau ac oddiwrth waed ac oddiwrth y peth a dagwyd ac oddiwrth anniweirdeb; o ymochel rhag y pethau hyn bydd yn dda arnoch. Yn iach.”

30Felly hwythau, wedi eu gollwng, deuthant i lawr i Antiochia, a chynullasant y lliaws a throsglwyddo’r llythyr;

31ac wedi ei ddarllen bu lawen ganddynt am yr anogaeth.

32Iwdas hefyd a Silas, a hwythau’n broffwydi, anogasant y brodyr trwy lawer gair a’u cadarnhau.

33Ac wedi iddynt dreulio ysbaid gollyngwyd hwynt mewn tangnefedd gan y brodyr at y sawl a’u danfonodd.

35Eithr tariodd Paul a Barnabas yn Antiochia, gan ddysgu a phregethu, ynghyd ag eraill lawer, air yr Arglwydd.

36Wedi rhai dyddiau dywedodd Paul wrth Farnabas, “Dychwelwn yn awr i ymweled â’r brodyr ym mhob dinas y cyhoeddasom air yr Arglwydd, i weld sut y mae arnynt.”

37A dymunai Barnabas gymryd gyda hwynt Ioan, a elwid Marc;

38eithr hawliai Paul, am un a gefnodd arnynt ym Mhamffylia, ac nad aethai gyda hwynt at eu gwaith, na châi hwnnw fod gyda hwynt.

39A chododd diflastod, nes ymwahanu ohonynt â’i gilydd; a chymerth Barnabas Farc gydag ef a hwylio ymaith i Gyprus.

40Eithr dewis Silas a wnaeth Paul, ac aeth ymaith, wedi ei gyflwyno i ras yr Arglwydd gan y brodyr;

41a theithiai drwy Syria a Chilicia, gan gadarnhau’r eglwysi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help