1Yr oedd yn Antiochia yn yr eglwys a oedd yno broffwydi ac athrawon — Barnabas a Simeon, a elwid Niger, a Lwcius o Gyrene, a Manaen, brawdmaeth Herod y tetrarch, a Saul.
2Ac a hwy’n gwasanaethu’r Arglwydd ac yn ymprydio, fe ddywedodd yr Ysbryd Glân, “Neilltuwch yn awr i mi Farnabas a Saul i’r gwaith y gelwais hwynt iddo.”
3Yna wedi ymprydio a gweddïo a dodi eu dwylo arnynt, gollyngasant hwynt.
4Hwynt-hwy, felly, wedi eu hanfon allan gan yr Ysbryd Glân, aethant i lawr i Selewcia, ac oddiyno hwylio i Gyprus;
5ac wedi cyrraedd Salamis dechreuasant gyhoeddi gair Duw yn synagogau’r Iddewon. (Yr oedd ganddynt Ioan hefyd, yn gynorthwywr.)
6Ac wedi teithio trwy’r holl ynys hyd Baffus cawsant ryw ŵr o ddewin, gau broffwyd o Iddew, a’i enw Bariesu,
7yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Pawlus, gŵr deallgar. Galwodd hwn Farnabas a Saul ato, a mynnodd gael clywed gair Duw;
8ond eu gwrthsefyll a wnâi Elymas, y dewin (felly y cyfieithir ei enw), a cheisio gŵyrdroi’r rhaglaw oddiwrth y ffydd.
9Eithr Saul (neu Paul), wedi ei lenwi â’r Ysbryd Glân, a syllodd arno,
10a dywedyd, “Ti, sy’n llawn o bob twyll a phob dichell, mab diafol, gelyn popeth sy iawn, oni pheidi di â gŵyrdroi uniawn ffyrdd yr Arglwydd?
ddeugain mlynedd yn y diffeithwch,canys gweithred yr wyf fi yn ei gwneuthur yn eich dyddiau chwi,
gweithred na chredwch ddim ynddi, er ei llwyr fynegi i chwi.”
42Ac a hwynt yn myned allan, deisyfai’r bobl arnynt lefaru’r pethau hyn wrthynt y Saboth nesaf.
43Ac wedi gollwng y gynulleidfa canlynodd llawer o’r Iddewon a’r proselytiaid crefyddol Baul a Barnabas, a llefarant hwythau wrthynt, a’u hannog i lynu wrth ras Duw.
44A’r Saboth dilynol ymgynullodd yr holl ddinas bron i glywed gair Duw.
45A phan welodd yr Iddewon y torfeydd fe’u llannwyd o genfigen, a dechreuasant wrthddwedyd yr hyn a leferid gan Baul, ai ddifrïo.
46Yna llefarodd Paul a Barnabas yn hy, a dywedyd, “Rhaid oedd llefaru gair Duw yn gyntaf i chwi; bellach, gan eich bod yn ei wrthod ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, dyma ni’n troi at y Cenhedloedd.
47Canys hyn yw gorchymyn yr Arglwydd i ni:
Gosodais di yn oleuni i’r Cenhedloedd
i fod ohonot yn iechydwriaeth hyd eithaf y ddaear.”
48A phan glywsant, bu lawen gan y cenhedloedd, a gogoneddent air Duw, a chredasant — gynifer ag a oedd yn gymwys i fywyd tragwyddol;
49a thaenid gair yr Arglwydd trwy’r holl wlad.
50Ond cyffroes yr Iddewon y gwragedd crefyddol bonheddig a gwŷr blaenaf y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a’u bwrw allan o’u gororau hwynt.
51Hwythau, ysgydwasant y llwch oddiar eu traed yn eu herbyn, a deuthant i Iconium.
52A llenwid y disgyblion â llawenydd ac â’r Ysbryd Glân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.