1Afraid ynteu yw i mi ysgrifennu atoch ynglŷn â’r gymwynas ar gyfer y saint.
2Canys gwn am eich ewyllysgarwch a byddaf yn ymffrostio yn eich cylch wrth y Macedoniaid fod Achaia yn barod er y llynedd. Symbylodd eich sêl y rhan fwyaf ohonynt.
3Er hynny anfonais y brodyr fel na byddo ein hymffrost yn hyn o ran yn ofer eithr y byddoch, megis y dywedais, yn barod.
4Ofn sydd arnaf rhag i Facedoniaid ddyfod gyda mi a’ch cael yn amharod ac i ni, heb sôn amdanoch chwi, gael ein gwarthruddo yn hyn o hyder.
5Bernais felly mai anghenraid oedd annog y brodyr i’n rhagflaenu tuag atoch fel y trefnont ymlaen llaw eich rhodd haelionus a ragaddawyd ac y byddo honno, drwy fod yn barod, yn gweddu i haelioni ac nid i gybydd-dra.
6Ond cofier hyn: a heuo’n brin yn brin hefyd y med, a heuo’n helaeth yn helaeth hefyd y med.
7Rhodded pob un megis yr arfaethodd yn ei galon, nid o anfodd neu o orfod. Canys rhoddwr llawen
Erys ei gyfiawnder yn dragywydd.
10Yr hwn a ddarpar had i’r heuwr a bara yn ymborth
Esa. 55:10. a ddarpar had i chwi ac a’i hamlha. Pair gynnydd hefyd i ffrwyth eich cyfiawnder.Hos. 10:12.11Fe fyddwch yn oludog ym mhob dim ar gyfer pob haelioni, ac y mae hwnnw, drwom ni, yn cynhyrchu diolchgarwch i Dduw.
12Canys y mae gweinyddiad y gymwynas hon nid yn unig yn cyflawni angen y saint eithr y mae’n helaethach fyth trwy lawer o ddiolchiadau i Dduw.
13Drwy gyfrwng y prawf a geir yn y gwasanaeth hwn y maent yn gogoneddu Duw oblegid ufudd-dod eich cyffes i efengyl Crist a haelfrydedd eich cydymdeimlad â hwy ac â phawb.
14A chan weddïo drosoch y maent yn hiraethu amdanoch oblegid bod gras Duw yn dra helaeth yn eich plith.
15I Dduw y bo’r diolch am ei ddawn anhraethadwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.