1Gan fwrw heibio felly bob malais a phob dichell a rhagrithiau a chenfigennau a phob goganau,
2fel babanod newydd-anedig hiraethwch am y llaeth ysbrydol pur, fel trwyddo ef y prifioch i gadwedigaeth,
3os profasoch mai graslon yw’r Arglwydd.
4Gan nesáu ato ef, maen byw, a wrthodwyd gan ddynion ond sydd etholedig, gwerthfawr gyda Duw,
5fe’ch adeiledir chwithau hefyd, megis meini byw, yn dŷ ysbrydol i fod yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymu aberthau ysbrydol cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.
6Oblegid cynhwysir mewn ysgrythur:
Wele, yr wyf yn gosod yn Sion gonglfaen etholedig, gwerthfawr,
A’r hwn sy’n credu ynddo ef nis cywilyddir.
7I chwi, gan hynny, y perthyn y gwerthfawrogi, sef i’r rhai sy’n credu; ond i’r rhai sy’n anghredu,
8 Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, gwnaethpwyd hwnnw’n ben congl a maen tramgwydd a chraig rhwystr.
Tramgwydda’r rhain wrth y gair ac anufuddhau iddo, i’r hyn hefyd y tynghedwyd hwynt.
9Ond chwi, hil etholedig ydych, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl sy’n eiddo priod, fel y cyhoeddech ragoriaethau’r hwn a’ch galwodd chwi o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef;
10y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobl Dduw, rhai oedd heb drugaredd, ond yn awr a gafodd drugaredd.
11Anwyliaid, ’rwy’n erfyn arnoch fel dieithriaid a dyfodiaid i ymochel rhag chwantau cnawdol y sy’n rhyfela yn erbyn yr enaid;
12a’ch rhodiad yn hardd ymhlith y Cenhedloedd, fel yn y peth y’ch gogenir fel drwgweithredwyr, y gogoneddent Dduw yn nydd ymweliad, oherwydd y gweithredoedd da a welant.
13Ymostyngwch i bob dynol sefydliad, er mwyn yr Arglwydd, pa un ai i frenin fel un mewn awdurdod,
14ai ynteu i lywodraethwyr fel rhai a anfonir ganddo ef, er cosb i’r rhai a wna ddrwg a chlod i’r rhai a wna dda —
15canys dyma yw ewyllys Duw, bod i chwi wrth wneuthur da gau safn anwybodaeth yr ynfyd
16— fel pobl rydd, a heb fod gennych eich rhyddid yn gochl malais, eithr fel caethweision Duw.
17Perchwch bawb, cerwch y frawdoliaeth, ofnwch Dduw, perchwch y brenin.
18Y gweision, ymddarostyngwch gyda phob ofn i’r meistriaid, nid yn unig i’r rhai da a thirion eithr i’r rhai trawsion hefyd.
19Canys hyn yw gras, os bydd un oherwydd ei ymwybod â Duw yn ymgynnal dan ddoluriau, gan ddioddef ar gam.
20Canys pa glod yw os wrth bechu a chael eich cernodio y byddwch yn goddef; ond os wrth wneuthur da a dioddef y goddefwch, hyn sydd ras gyda Duw.
21Canys i hyn y’ch galwyd, oherwydd dioddefodd Crist hefyd er eich mwyn chwi, a gadael i chwi batrwm fel y dilynech yn ôl ei gamau ef;
22yr hwn ni wnaeth bechod ac ni chaed twyll yn ei enau;
23yr hwn pan ddifenwid ni ddifenwai’n ôl, pan ddioddefai ni fygythiai, ond ymgyflwyno i’r Un sy’n barnu’n gyfiawn;
24yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, wedi inni ddarfod â phechodau, fyw mewn cyfiawnder; trwy gleisiau
’r hwn yr iachawyd chwi.25Canys yr oeddech fel defaid ar gyfeiliorn, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarcheidwad eich eneidiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.