1Yna llefarodd yr Iesu wrth y tyrfaoedd a’i ddisgyblion,
2gan ddywedyd, “Yng nghadair Moses yr eisteddodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid.
3Pob peth, gan hynny, a ddywedant wrthych, gwnewch a chedwch ef, ond yn ôl eu gweithredoedd na wnewch; canys dywedant, ac ni wnânt.
4A rhwymant feichiau trymion a’u dodi ar ysgwyddau dynion, a hwy eu hunain ni fynnant eu symud â’u bys.
5A’u holl weithredoedd a wnânt er mwyn cael eu gweled gan ddynion; canys lledant eu phylacterau a helaethant eu taselau,
6a charant y brif sedd yn y gwleddoedd a’r prif gadeiriau yn y synagogau
7a’r cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion, Rabbi.
8Eithr na’ch galwer chwi Rabbi; canys un athro sydd i chwi, a chwithau oll, brodyr ydych.
9Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear; canys un Tad sydd i chwi, yr un nefol.
10Ac na’ch galwer yn hyfforddwyr, oherwydd un hyfforddwr sydd i chwi, y Crist.
11A’r mwyaf ohonoch, bydded i chwi’n was.
12A phwy bynnag a’i dyrchafo’i hun a ostyngir, a phwy bynnag a’i gostyngo’i hun a ddyrchefir.
13Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn cloi teyrnas nefoedd yn erbyn dynion; canys chwi nid ewch i mewn, a’r rhai sydd yn ceisio myned i mewn, ni edwch iddynt fyned.
15Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn amgylchu’r môr a’r tir i wneuthur un proselyt, a phan fyddo wedi ei wneuthur gwnewch ef yn gymaint ddwywaith o fab Gehenna â chwi.
16Gwae chwi, arweinwyr dall, sy’n dywedyd, ‘Y neb a dyngo i’r deml, ni olyga ddim; ond y neb a dyngo i aur y deml, y mae arno ddyled.’
17Ffyliaid a deillion! Canys pa un sydd fwyaf, yr aur ai’r deml a santeiddiodd yr aur?
18Eto, ‘Y neb a dyngo i’r allor, ni olyga ddim; ond y neb a dyngo i’r rhodd sydd arni, y mae arno ddyled.’
19Ddeillion! Canys pa un sydd fwyaf, y rhodd ai’r, allor sy’n santeiddio’r rhodd?
20A dyngo, ynteu, i’r allor, tyngu y mae iddi hi ac i bob peth sydd arni;
21ac a dyngo i’r deml, tyngu y mae iddi hi ac i’r hwn sy’n preswylio ynddi;
22ac a dyngo i’r nef, tyngu y mae i orsedd Duw ac i’r hwn sy’n eistedd arni.
23Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn degymu’r mintys a’r ffenigl a’r cwmin, ac wedi gadael heibio’r pethau trymach sydd yn y gyfraith, barn a thrugaredd a ffyddlondeb; dylid gwneuthur y naill heb adael heibio’r lleill.
24Arweinwyr dall, sy’n hidlo’r gwybedyn ac yn llyncu’r camel!
25Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r plât, ond o’r tu mewn llawn ydynt o ladrad a thrachwant.
26Pharisead dall! Glanha’n gyntaf y tu mewn i’r cwpan, fel y delo’r tu allan iddo hefyd yn lân.
27Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys ymdebygwch i feddau wedi eu gwyngalchu; oddi allan ymddangosant yn deg, ond oddi mewn llawn ydynt o esgyrn y meirw a phob aflendid.
28Felly chwithau hefyd, oddi allan ymddangoswch i ddynion yn gyfiawn, ond oddi mewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anghyfraith.
29Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn adeiladu beddau’r proffwydi ac yn addurno beddrodau’r rhai cyfiawn,
30ac yn dywedyd, ‘Pe buasem ni byw yn nyddiau ein tadau, ni buasem gyfrannog â hwynt yng ngwaed y proffwydi.’
31Ac felly tystiolaethwch amdanoch eich hunain mai meibion ydych i’r rhai a laddodd y proffwydi.
32Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau.
33Seirff, epil gwiberod, pa fodd y dihengwch rhag eich dedfrydu i Gehenna?
34Am hynny wele fi’n anfon atoch broffwydi a doethion ac ysgrifenyddion; rhai ohonynt a leddwch a’u croeshoelio, ac eraill a ffrewyllwch yn eich synagogau a’u herlid o ddinas i ddinas;
35fel y delo arnoch chwi bob tywallt gwaed rhai cyfiawn ar y ddaear o waed Abel gyfiawn hyd waed Sacharïas fab Barachïas a laddasoch rhwng y cysegr a’r allor.
36Yn wir meddaf i chwi, daw hyn oll ar y genhedlaeth hon.
37Gaersalem, Gaersalem, sy’n lladd y proffwydi a llabyddio’r rhai a anfonwyd ati — pa sawl gwaith y mynnais gasglu dy blant ynghyd, fel y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!
38Wele, eich tŷ chwi a adewir.
39Canys meddaf i chwi, ni’m gwelwch i o hyn allan hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw’r un sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.