1Yna gwelwyd arwydd mawr yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo â’r haul, a’r lleuad dan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren,
2ac yn feichiog, a gwaedda mewn gwewyr a phoen esgor.
3A gwelwyd arwydd arall yn y nef, wele ddraig goch fawr ac iddi saith ben a deg corn, ac ar ei phennau saith ddïadem,
4a llusg ymaith ei chynffon draean sêr y nef, a bwriodd hwynt i’r ddaear. A safodd y ddraig o flaen y wraig a oedd ar fin esgor, i lyncu ei phlentyn pan esgorai arno.
5Ac esgorodd ar fab, gwryw, y sydd i fugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haearn, a chipiwyd ei phlentyn at Dduw ac at ei orsedd ef.
6A ffodd y wraig i’r anialwch, lle y mae iddi fan wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthont hi yno fil deucant a thrigain o ddyddiau.
7A bu rhyfel yn y nef, Mihangel a’i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. A rhyfelodd y ddraig a’i hangylion hithau,
8eithr ni orfuant, a’u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef.
9A bwriwyd i lawr y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, twyllwr yr holl fyd, bwriwyd ef i’r ddaear, a bwriwyd i lawr ei angylion gydag ef.
10Yna clywais lais mawr yn y nef yn dywedyd:
Yn awr y daeth iachawdwriaeth a gallu a brenhiniaeth ein Duw ni ac awdurdod ei Grist ef, canys bwriwyd i lawr gyhuddwyr ein brodyr, sy’n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos.
11A gorchfygasant hwy ef drwy waed yr Oen a thrwy air eu tystiolaeth, a dibris hyd at angau fu ganddynt eu heinioes.
12Am hynny llawenhewch, nefoedd a’i phreswylwyr; gwae’r ddaear â’r môr, canys disgynnodd y diafol arnoch gyda llid mawr, gan wybod mai byr amser sydd ganddo.
13A phan welodd y ddraig ei bwrw i’r ddaear, ymlidiodd ar ôl y wraig a esgorasai ar y plentyn.
14A rhoddwyd i’r wraig ddwy adain eryr mawr fel yr ehedai i’r anialwch, i’w lle ei hun, i’w hymgeleddu yno am amser ac amserau a hanner amser o olwg y sarff.
15A bwriodd y sarff o’i safn ddwfr fel afon ar ôl y wraig i beri ei chludo ymaith gyda’r llif.
16A chynorthwyodd y ddaear y wraig; agorodd y ddaear ei safn a llyncodd yr afon a fwriodd y ddraig o’i safn.
17A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i ryfela â’r gweddill o’i had hi sy’n cadw gorchmynion Duw a dal tystiolaeth Iesu.
18A safodd ar dywod y môr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.