Hosea 14 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Dychwel, Israel, at Iafe dy Dduw,

Canys syrthiaist trwy dy anwiredd.

2Cymerwch eiriau gyda chwi,

A dychwelwch at Iafe;

Dywedwch wrtho, “Maddeu’r holl anwiredd,

A chymer ddaioni,

Fel yr ad-dalom iti ein gwefusau yn lle bustych.

3Ni weryd Asyria ni,

Ni farchogwn ar farch,

Ac ni ddywedwn mwyach ‘Ein Duw’ am waith ein dwylo,

Oblegid ynot ti y caiff yr amddifad dosturi.”

4Iachâf eu gwrthgiliad,

Caraf hwynt o’m bodd,

Canys trodd fy nigllonedd oddiwrtho.

5Byddaf fel gwlith i Israel,

Blagura yntau fel lili,

A bwrw ei wraidd fel Lebanon;

6Estyn ei frigau,

A bydd ei wychter fel olewydden,

Ac aroglau arno fel Lebanon.

7Dychwel y rhai a drig yn ei gysgod,

Adfywiant fel yd,

A blagurant fel gwinwydden;

Bydd ei goffa fel gwin Lebanon.

8Medd Effraim,

“Beth sydd a wnelwyf mwy ag eilunod?”

Myfi a atebodd ac a’i gwyliodd.

Myfi sydd fel cypreswydden werdd,

Ohonof y cafwyd dy ffrwyth.

9Pwy sydd ddoeth i ddeall hyn?

Yn ddeallgar i’w wybod?

Canys uniawn yw ffyrdd Iafe,

A rhodia’r cyfiawnion ynddynt,

Ond tramgwydda troseddwyr ynddynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help