2 Pedr 3 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Hwn yw’r ail epistol yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, anwyliaid, ac ynddynt yr wyf yn cyffroi trwy atgof eich meddwl didwyll,

2fel y cofioch y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a gorchymyn apostolion eich Arglwydd a’ch Achubwr,

3gan wybod hyn yn gyntaf peth, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr gyda gwatwar yn rhodio yn ôl eu blysiau eu hunain

4a dywedyd: “Pa le y mae’r addewid am ei ddyfodiad ef? Canys er pan hunodd y tadau, y mae popeth yn aros fel yr oedd er dechrau’r cread.”

5Canys o’u gwirfodd anghofiant hyn, sef mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er cynt a’r ddaear yn gyfansawdd o ddwfr a thrwy ddwfr —

6trwy ddyfroedd y gorlifwyd y byd a oedd y pryd hwnnw a’i ddinistrio.

7Trwy’r un gair y mae’r nefoedd y sydd yn awr a’r ddaear wedi eu hystorio a’u cadw i dân erbyn dydd barn a dinistr dynion annuwiol.

8Ond nac anghofiwch, anwyliaid, yr un peth hwn, sef bod un dydd gyda’r Arglwydd fel mil o flynyddoedd a mil o flynyddoedd fel un dydd.

9Nid araf yw’r Arglwydd ynglŷn â’i addewid, fel y cyfrif rhai arafwch, eithr hirymarhous yw tuag atoch chwi, heb ewyllysio dinistr neb, ond cyrchu o bawb at edifeirwch.

10Ond daw dydd yr Arglwydd megis lleidr, yn yr hwn yr â’r nefoedd heibio gyda thwrw, ac y datodir yr elfennau gan wres, ac y datguddir y ddaear a’r gwaith y sydd ynddi.

11A’r holl bethau hyn yn ymddatod felly, pa fath rai a ddylech chwi fod mewn sanctaidd rodiad a duwioldeb,

12yn disgwyl ac yn prysuro dyfodiad dydd Duw, oherwydd yr hwn y datodir y nefoedd gan dân, ac y toddir yr elfennau gan wres?

13Eithr nefoedd newydd a daear newydd yn ôl ei addewid ef yr ydym ni yn eu disgwyl, yn y rhai y trig cyfiawnder.

14Gan hynny, anwyliaid, a chwi yn disgwyl y pethau hyn, byddwch ddyfal i’ch cael ganddo ef mewn tangnefedd yn ddifrychau ac yn ddifai,

15a chyfrifwch yn iachawdwriaeth hirymaros ein Harglwydd ni, megis hefyd yn ôl y ddoethineb a roed iddo y sgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, ac ef yn llefaru am y pethau hyn,

16fel yn ei holl epistolau hefyd, yn y rhai y mae rhai pethau anodd eu deall, pethau y mae’r di-ddysg a’r anwadal yn eu gŵyrdroi i’w dinistr eu hunain, megis hefyd yr ysgrythurau eraill.

17Chwychwi, gan hynny, anwyliaid, yn rhagwybod, gwyliwch rhag eich ysgubo i ffwrdd gan gyfeiliornad yr anwir, a syrthio ymaith oddi wrth eich sefydlogrwydd eich hunain,

18ond cynyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hachubwr ni Iesu Grist. Iddo ef y bo’r gogoniant yn awr a hyd byth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help