Effesiaid 1 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Paul, apostol Crist Iesu, drwy ewyllys Duw at y saint sydd (yn Effesus) a’r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu.

2Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni a’r Arglwydd Iesu Grist.

3Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, a’n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist,

4fel y dewisodd ni ynddo ef cyn sylfaenu’r byd i fod yn santaidd a difai ger ei fron ef,

5wedi iddo ein rhaglunio ni mewn cariad i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo’i hun yn ôl rhadlonrwydd ei ewyllys ef,

6er mawl gogoniant ei ras ef a gyfrannodd i ni yn yr anwylyd.

7Yn hwn y mae gennym ryddhad drwy ei waed ef, sef maddeuant ein camweddau, yn ôl cyfoeth ei ras,

8a arllwysodd arnom yn helaeth ymhob doethineb a deall,

9wedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys yn ôl ei radlonrwydd ef,

10a arfaethodd ynddo ef ar gyfer goruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, sef crynhoi popeth i ben yn y Crist, y pethau yn y nefoedd a’r pethau ar y ddaear.

11Ynddo ef hefyd y’n gwnaed ni’n etifeddion, wedi ein rhaglunio yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn egnïo mewn popeth yn ôl cyngor ei ewyllys ei hun,

12fel y byddem ni er mawl ei ogoniant ef, a ninnau o’r blaen wedi gobeithio yn y Crist.

13Yn hwn chwithau hefyd, wedi clywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth, a chredu ynddo hefyd, a seliwyd ag Ysbryd Glân yr addewid,

14sef ernes ein hetifeddiaeth ni ar gyfer rhyddhad yr eiddo, er mawl ei ogoniant ef.

15Am hynny, wedi clywed am y ffydd sydd gennych yn yr Arglwydd Iesu a’ch cariad at yr holl saint,

16nid wyf innau’n tewi â diolch trosoch gan eich coffáu yn fy ngweddïau, —

17Duw ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y gogoniant, a roddo i chwi ysbryd doethineb a datguddiad mewn adnabyddiaeth ohono,

18llygaid eich calon wedi eu goleuo hyd oni wypoch beth yw gobaith ei alwad ef, beth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint,

19a beth yw tra-mawredd ei allu ef tuag atom ni sydd yn credu, yn ôl egni grym ei nerth ef,

20[yr egni] a ddangosodd yn y Crist wrth ei gyfodi ef o feirw a’i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd

21goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn y byd a ddaw.

22A gosododd bopeth dan ei draed ef a rhoes ef yn ben goruwch popeth i’r eglwys,

23yr hon yw ei gorff ef, cyflawnder yr un sydd yn cyflawni popeth ym mhob dim.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help