Philipiaid 1 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Paul a Thimotheus, gweision Crist Iesu, at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi, gyda’r esgobion a’r diaconiaid:

2gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.

3Byddaf yn diolch i’m Duw yn fy holl goffa amdanoch,

4gan ddeisyf gyda llawenydd bob amser ymhob deisyfiad o’r eiddof dros bawb ohonoch

5am eich cydweithrediad ar ran yr efengyl o’r dydd cyntaf hyd yr awron,

6gan fod yn ddiogel gennyf y peth hwn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da ei berffeithio hyd ddydd Iesu Grist:

7megis y mae’n gyfiawn i mi synied hyn am bawb ohonoch am eich bod gennyf yn fy nghalon, gan fod pawb ohonoch yn fy rhwymau yn ogystal ag yn f’amddiffyn o’r efengyl a’i chadarnhad, yn gyd-gyfranogion â mi o ras:

8canys Duw yw fy nhyst y modd yr hiraethaf am bawb ohonoch yn serchiadau Crist Iesu.

9A dyma fy ngweddi, ar i’ch cariad ymhelaethu eto’n fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr,

10fel y dewisoch yn hytrach yr hyn sy’n rhagori, fel y byddoch ddidwyll a didramgwydd erbyn dydd Crist,

11yn gyflawn o ffrwyth cyfiawnder yr hwn sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a mawl Duw.

12A mynnwn i chwi wybod, frodyr, i’m helyntion droi’n hytrach er cynnydd yr efengyl,

13fel y bu i’m rhwymau ddyfod yn hysbys yng Nghrist trwy’r holl bretorium

14ac i’r rhelyw oll, ac y bu i’r mwyafrif o’r brodyr gan ymddiried yn yr Arglwydd oblegid fy rhwymau fod yn fwy hy o lawer i draethu gair Duw yn ddiofn.

15Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist hyd yn oed o genfigen a chynnen, a rhai hefyd o ewyllys da;

16cyhoedda’r naill Grist o gariad, gan wybod fy ngosod er amddiffyn yr efengyl,

17ond y lleill o uchelgais, nid yn ddilwgr, gan dybied peri blinder i mi yn fy rhwymau.

18Beth ynteu? Dim ond mai Crist a gyhoeddir ymhob modd, ai mewn rhith ai mewn gwirionedd, ac yn hyn yr wyf yn gorfoleddu, ie, a gorfoleddu a wnaf.

19Canys gwn y try hyn yn ymwared i mi trwy eich gweddi chwi a chyflenwad ysbryd Iesu Grist,

20yn ôl f’awyddfryd a’m gobaith na’m gwaradwyddo mewn dim, ond yn hollol ddiofn fel bob amser, felly’r awron hefyd, y mawrheir Crist yn fy nghorff i, ai trwy fyw ai trwy farw.

21Canys Crist yw byw i mi, ac elw yw marw.

22Eithr os byw yn y cnawd, os hyn yw ffrwyth fy llafur, yna pa beth a ddewisaf nis gwn.

23Ond cyfyng yw arnaf o’r ddeutu gan fod arnaf chwant ymado a bod gyda Christ,

24canys llawer iawn gwell ydyw, eto aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi.

25A hyn a wn yn sicr yr arhosaf ac y cyd-arhosaf gyda chwi oll er eich cynnydd a’ch gorfoledd yn y ffydd,

26fel y byddo’n helaethach eich ymffrost yng Nghrist Iesu ynof fi trwy fy nyfod atoch drachefn.

27Yn unig bydded eich ymarweddiad yn deilwng o efengyl Crist, fel pa un a ddelwyf a’ch gweled ai bod yn absennol y clywyf am eich helynt, sefyll ohonoch mewn un ysbryd gan gyd-ymdrechu ag un enaid dros ffydd yr efengyl,

28a heb eich dychrynu mewn un dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn iddynt hwy sydd arwydd eglur o golledigaeth, eithr o’ch iechydwriaeth chwi, a hynny oddiwrth Dduw;

29canys i chwi y rhoddwyd er Crist nid yn unig gredu ynddo ond hefyd ddioddef erddo,

30gan fod i chwi yr un ymdrech ag a welsoch ynof fi ac yr awron a glywch ei bod ynof fi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help