Datguddiad 9 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ac utganodd y pumed angel; yna gwelais seren wedi syrthio o’r nef i’r ddaear, a rhoddwyd iddo allwedd pwll Annwn.

2Ac agorodd ef bwll Annwn, ac esgynnodd mwg o’r pwll fel mwg ffwrnais fawr, a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pwll.

3Ac o’r mwg daeth allan i’r ddaear locustiaid, a rhoddwyd iddynt allu fel y mae gan ysgorpionau’r ddaear allu.

4Ac archwyd iddynt na niweidient na gwellt y ddaear na dim gwyrddlas nac un goeden, eithr yn unig y bobl nad oes ganddynt sêl Duw ar eu talcennau.

5A rhoddwyd arnynt nid eu lladd, eithr eu harteithio bum mis; a’u hartaith oedd fel artaith ysgorpion pan fratho ddyn.

6Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth ac nis cânt er dim, a deisyfant farw, a ffy marwolaeth oddi wrthynt.

7Ac o ran ymddangosiad tebyg oedd y locustiaid i feirch parod i ryfel, ac ar eu pennau megis coronau tebyg i aur, a’u hwynebau fel wynebau dynion,

8a chanddynt wallt fel gwallt gwragedd, a’u dannedd oedd fel dannedd llewod,

9a chanddynt lurigau fel llurigau haearn, a sŵn eu hadenydd fel sŵn cerbydau meirch lawer yn carlamu i ryfel.

10Ac y mae ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, a cholynnau, ac yn eu cynffonnau y mae eu gallu i niweidio dynion bum mis.

11Y mae ganddynt yn frenin arnynt angel Annwn; ei enw yn Hebraeg yw Abadon, ac yn y Roeg gelwir ef Apoluon.

12Aeth y gwae cyntaf heibio; wele daw eto ddau wae ar ôl hyn.

13Ac utganodd y chweched angel; yna clywais lais o bedwar corn yr allor aur gerbron Duw,

14yn dywedyd wrth y chweched angel a chanddo’r utgorn: Gollwng y pedwar angel sy’n rhwym wrth yr afon fawr, Ewffrates.

15A gollyngwyd y pedwar angel a baratoesid erbyn yr awr, y dydd, y mis, y flwyddyn, i ladd y traean o ddynion.

16A nifer lluoedd y gwŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynau; clywais eu nifer hwynt.

17Ac fel hyn y gwelais yn y weledigaeth y meirch a’r sawl a eisteddai arnynt, — yr oedd ganddynt lurigau o liw tân a huacinth a brwmstan; a phennau’r meirch fel pennau llewod, ac o’u safnau daw allan dân a mwg a brwmstan.

18Gan y tri phla hyn y lladdwyd y traean o ddynion, gan y tân a’r mwg a’r brwmstan sy’n dyfod allan o’u safnau hwynt.

19Canys y mae gallu’r meirch yn eu safn ac yn eu cynffonnau, a’u cynffonnau sydd debyg i seirff, a chanddynt bennau, ac â’r rheini y gwnânt niwed.

20A’r gweddill o ddynion, nas lladdwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant am weithredoedd eu dwylo fel ag i beidio ag addoli’r demoniaid a’r delwau aur ac arian a phres a cherrig a choed, y rhai na allant na gweled na chlywed na cherdded;

21nid edifarhasant chwaith am eu llofruddiaethau na’u swyngyfareddau na’u godineb na’u lladradau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help