1Wedi hyn gwelais angel arall yn disgyn o’r nef, a chanddo awdurdod mawr, a goleuwyd y ddaear gan ei ddisgleirdeb.
2A gwaeddodd â llais nerthol gan ddywedyd: Cwympodd, cwympodd Babilon fawr, ac aeth yn drigfa cythreuliaid ac yn warchodfa pob ysbryd aflan ac yn warchodfa pob aderyn aflan ac atgas;
3canys drwy win llid ei phuteindra hi y cwympodd yr holl genhedloedd, a phuteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi, ac ymgyfoethogodd marsiandwyr y ddaear ar rwysg ei maswedd hi.
4A chlywais lef arall o’r nef yn dywedyd: Deuwch, fy mhobl, allan ohoni, fel na byddoch gyfrannog o’i phechodau ac na dderbynioch o’i phlâu;
5oblegid pentyrrwyd ei phechodau hyd y nef, a chofiodd Duw ei hanghyfiawnderau hi.
6Telwch iddi megis y talodd hithau, a dybiwch yn ddwbl yn ôl ei gweithredoedd; yn y cwpan a gymysgodd, cymysgwch iddi yn ddwbl;
7cymaint ag yr ymogoneddodd ac yr ymfoethusodd, cymaint â hynny rhoddwch iddi o boenedigaeth a galar. Canys dywed yn ei chalon: Eisteddaf yn frenhines, a gweddw nid wyf, a galar nis gwelaf byth.
8Oherwydd hyn mewn un dydd daw ei phlâu, marwolaeth a galar a newyn, a llosgir hi’n ulw â thân; oblegid nerthol yw’r Arglwydd Dduw, ei barnwr hi.
9Ac wyla a chwynfanna brenhinoedd y ddaear amdani hi, y rhai a buteiniodd gyda hi ac ymfoethuso, pan welont fwg ei llosgi hi;
10safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, a dywedyd: Gwae, gwae’r ddinas fawr, Babilon, y ddinas gadarn, canys mewn un awr y daeth dy farn.
11Ac wyla a galara marsiandwyr y ddaear amdani, oherwydd ni phrŷn neb mwy eu nwyddau hwynt,
12nwyddau aur ac arian a charreg werthfawr a pherlau a lliain main a phorffor a sidan ac ysgarlad, pob pren thwmïon a phob llestr ifori a phob llestr o goed gwerthfawrocaf ac o bres ac o haearn ac o farmor,
13a sinamon ac amomon, a pherlysiau a myrr a thus a gwin ac olew a pheilliaid a gwenith a gwartheg a defaid, meirch a cherbydau a dynion yn gyrff ac eneidiau.
14A chiliodd dy ffrwyth, chwennych-beth dy enaid, oddi wrthyt, a diflannodd pob rhyw fraster a gwychder oddi wrthyt, ac ni cheir mohonynt byth mwy.
15Marsiandwyr y pethau hyn, a ymgyfoethogodd drwyddi, safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, dan wylo a galaru
16a dywedyd: Gwae, gwae’r ddinas fawr, a wisgwyd â lliain main a phorffor ac ysgarlad, ac wedi ei goreuro ag aur ac â charreg werthfawr ac â pherl,
17canys difodwyd cymaint cyfoeth mewn un awr. A phob meistr llong a phob un a hwylio i ryw fan, a morwyr a’r sawl sy’n gweithio ar y môr, safasant o hirbell
18a gweiddi wrth weled mwg ei llosgi a dywedyd: Pa ddinas debyg i’r ddinas fawr?
19A bwriasant lwch ar eu pennau, a gweiddi dan wylo a galaru, gan ddywedyd: Gwae, gwae’r ddinas fawr, yn yr hon yr ymgyfoethogodd yr holl rai sydd â llongau ar y môr drwy ei drudfawr bethau hi, oherwydd mewn un awr y gwnaethpwyd hi’n ddiffaith.
20Ymlawenha o’i herwydd, dydi nef a’r saint a’r apostolion a’r proffwydi, canys barnodd Duw eich condemniad chwi arni hi.
21A chododd rhyw angel cryf faen fel maen melin mawr, a bwriodd ef i’r môr, gan ddywedyd: Felly gyda rhuthr y bwrir Babilon, y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach.
22A sŵn telynorion a chantorion a phibyddion ac utganwyr nis clywir mwyach o’th fewn, a chrefftwr o unrhyw grefft nis ceir mwyach o’th fewn, a sŵn maen melin nis clywir ynot mwy,
23a golau lamp nis gwelir ynot mwy, a llais priodfab a phriodferch nis clywir ynot mwyach, canys mawrion y ddaear oedd dy farsiandwyr, ac â’th swyngyfaredd y twyllwyd yr holl genhedloedd,
24ac ynddi hi y cafwyd gwaed proffwydi a saint a phawb a’r a laddwyd ar y ddaear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.