Mathew 14 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Y pryd hwnnw fe glywodd Herod y tetrarch y sôn am Iesu,

2ac eb ef wrth ei weision, “Hwn yw Ioan Fedyddiwr; cyfododd oddi wrth y meirw, ac am hynny y gweithia’r grymusterau ynddo.”

3Canys Herod a ddaliodd Ioan, a’i rwymo a’i ddodi yng ngharchar o achos Herodias gwraig Phylip ei frawd.

4Canys dywedai Ioan wrtho, “Ni ddylai fod hon yn wraig i ti.”

5Ac yr oedd am ei ladd ond ofnodd y dyrfa, canys ystyrient ef yn broffwyd.

6Ond pan ddaeth pen-blwydd Herod dawnsiodd merch Herodias ger eu bron; a boddhaodd Herod,

7hyd onid addawodd ar ei lw roi iddi beth bynnag a ofynnai.

8A hithau, wedi ei chyfarwyddo gan ei mam, “Dyro i mi,” meddai hi, “yn y fan yma ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.”

9A thristaodd y brenin, ond oherwydd y llwon a’i gyd-gyfeddachwyr fe orchmynnodd ei roddi;

10ac anfonodd i dorri pen Ioan yn y carchar.

11A dygwyd ei ben ef ar ddysgl, a rhoddwyd ef i’r eneth, a dug hithau ef i’w mam.

12A daeth ei ddisgyblion, a chymryd ei gorff ef a’i gladdu; a daethant i fynegi i’r Iesu.

13Pan glywodd yr Iesu, fe giliodd oddi yno mewn llong i le anghyfannedd o’r neilltu; a phan glywodd y tyrfaoedd, dilynasant ef ar eu traed o’r dinasoedd.

14Ac wedi iddo ddyfod allan, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt ac iachaodd eu cleifion.

15Ac wedi iddi hwyrhau, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, “Anghyfannedd yw’r lle, ac y mae’r amser bellach ar ben; gan hynny gollwng y tyrfaoedd, fel yr elont i’r pentrefydd i brynu bwyd iddynt eu hunain.”

16Ond dywedodd yr Iesu wrthynt, “Nid oes raid iddynt fynd; rhowch chwi iddynt beth i’w fwyta.”

17Meddant hwythau wrtho, “Nid oes gennym yma ond pum torth a dau bysgodyn.”

18Dywedodd yntau, “Dygwch hwynt i mi yma.”

19Ac wedi gorchymyn i’r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, fe gymerth y pum torth a’r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i’r nef, gofynnodd fendith, a thorrodd y torthau a’u rhoddi i’r disgyblion, a rhoes y disgyblion hwynt i’r tyrfaoedd.

20A bwytasant oll, a diwallwyd hwynt, a chodasant yr hyn a oedd yn weddill o’r darnau, ddeuddeg basgedaid lawn.

21A’r bwytawyr oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.

22Ac yna parodd i’r disgyblion fynd i’r llong, a mynd o’i flaen i’r ochr arall, nes iddo ef ollwng y tyrfaoedd.

23Ac wedi gollwng ohono’r tyrfaoedd, aeth i fyny i’r mynydd wrtho’i hun i weddïo. Ac wedi iddi hwyrhau yr oedd ef ar ei ben ei hun yno.

24Yr oedd y llong erbyn hyn ystadau lawer o’r tir, yn cael ei hyrddio gan y tonnau, canys yr oedd y gwynt yn erbyn.

25Ac ar y bedwaredd wylfa o’r nos fe ddaeth atynt dan gerdded dros y môr.

26A’r disgyblion wrth ei weled yn cerdded ar y môr a gyffrowyd, ac meddant, “Drychiolaeth yw,” ac yn eu braw rhoesant waedd.

27Ac yn y fan llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, “Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.”

28Atebodd Pedr ef, “Arglwydd, os ti wyt ti, gorchymyn i mi ddyfod atat ar y dyfroedd.”

29Dywedodd yntau, “Tyred.” A chan ddisgyn o’r llong cerddodd Pedr dros y dyfroedd, a daeth at yr Iesu.

30Ond wrth ganfod y gwynt fe ofnodd; a phan ddechreuodd suddo, gwaeddodd gan ddywedyd, “Arglwydd, achub fi.”

31Ac yn y fan estynnodd yr Iesu ei law a gafaelodd ynddo, ac medd wrtho, “Y bychan ei ffydd, paham y petrusaist?”

32Ac wedi iddynt fynd i fyny i’r llong, gostegodd y gwynt.

33Ac ymgrymodd y rhai oedd yn y llong iddo, gan ddywedyd, “Yn wir Mab Duw wyt ti.”

34Ac wedi croesi daethant i dir yn Gennesaret.

35A phan adnabu gwŷr y lle hwnnw ef, anfonasant i’r holl gymdogaeth honno, a dygasant ato yr holl gleifion,

36a deisyf arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd â thasel ei fantell; a chynifer ag a gyffyrddodd a iachawyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help