Datguddiad 13 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A gwelais fwystfil yn codi o’r môr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg diadem, ac ar ei bennau enwau cabledd.

2A thebyg oedd y bwystfil a welais i lewpard, a’i draed fel traed arth, a’i safn fel safn llew. A rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a’i gorsedd ac awdurdod mawr;

3ac un o’i bennau oedd megis wedi ei archolli i farwolaeth, ond iachawyd ei glwyf marwol. Ac aeth yr holl ddaear mewn rhyfeddod ar ôl y bwystfil,

4ac addolasant y ddraig am roddi ohoni’r awdurdod i’r bwystfil, ac addolasant y bwystfil gan ddywedyd: Pwy sydd debyg i’r bwystfil, a phwy a all ryfela ag ef?

5A rhoddwyd iddo enau yn llefaru pethau mawreddog a chableddau, a rhoddwyd iddo awdurdod i weithredu am ddau fis a deugain.

6Ac agorodd ei enau mewn cableddau yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef a’i babell ef, y sawl sy’n pabellu yn y nef.

7A rhoddwyd iddo ryfela yn erbyn y saint a’u gorchfygu, a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl.

8A’r holl breswylwyr ar y ddaear, addolant ef, pob un nad yw ei enw’n ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen a laddwyd er seiliad y byd.

9Od oes gan neb glust, gwrandawed.

10Os yw neb i’w gaethiwo, i gaethiwed yr â; os lladd neb â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Yn hyn y mae amynedd a ffydd y saint.

11Yna gwelais fwystfil arall yn codi o’r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn fel oen, a siaradai fel draig.

12A holl awdurdod y bwystfil cyntaf a arfer ef ger ei fron; a gwna i’r ddaear a’i phreswylwyr addoli’r bwystfil cyntaf, yr un yr iachawyd ei glwyf marwol.

13A gwna arwyddion mawrion, gwneuthur i dân ddisgyn o’r nef ar y ddaear yng ngŵydd dynion.

14A thwylla breswylwyr y ddaear drwy’r arwyddion y rhoddwyd iddo eu gwneuthur gerbron y bwystfil, gan ddywedyd wrth breswylwyr y ddaear am wneuthur delw i’r bwystfil sydd ag archoll y cleddau ganddo ac a fu fyw.

15A rhoddwyd iddo roi anadl yn nelw’r bwystfil, fel y siarado delw’r bwystfil a pheri bod lladd cynifer ag nad addolo ddelw’r bwystfil.

16A phair roddi i bob un, bychan a mawr, cyfoethog a thlawd, rhydd a chaeth, nod ar eu llaw ddeau neu ar eu talcen,

17fel na allo neb brynu na gwerthu oni bo ganddo’r nod, enw’r bwystfil neu rif ei enw ef.

18Yn hyn y mae doethineb: cyfrifed y deallgar rif y bwystfil, canys rhif dyn ydyw, a’i rif yw 666.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help