Hosea 3 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A dywedodd Iafe wrthyf,

“Dos eto, câr wraig

A gerir gan arall ac y sy’n godinebu,

Fel y câr Iafe Feibion Israel,

Er iddynt droi at dduwiau eraill,

A charu teisennau grawnwin.”

2Felly prynais hi imi am bymtheg o arian a chomer o haidd a lethech o haidd.

3A dywedais wrthi,

“Aros amdanaf ddyddiau lawer,

Na phuteinia, ac na fydd eiddo gŵr;

Felly finnau i ti.”

4Canys dyddiau lawer yr erys Meibion Israel

Heb frenin a heb dywysog,

A heb aberth a heb faen-hir,

A heb effod na theraffim;

5Wedi hynny dychwel Meibion Israel

A cheisiant Iafe eu Duw, a Dafydd eu brenin,

Ac arswydant oherwydd Iafe,

Ac oherwydd ei ddaioni yn niwedd y dyddiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help