1A chododd ei lygaid, a gwelodd y cyfoethogion, a oedd yn cyfrannu eu rhoddion i’r drysorfa.
2A gwelodd ryw weddw dlawd yn cyfrannu yno ddwy hatling;
3a dywedodd, “Dywedaf wrthych yn wir, y weddw dlawd hon, mwy a gyfrannodd na phawb;
4canys y rhain oll, o’u gweddill y cyfranasant at y rhoddion; ond hon o’i phrinder a gyfrannodd y cwbl a oedd ganddi at ei byw.”
5A phan oedd rhai’n dywedyd am y deml, ei bod wedi ei haddurno â meini teg a rhoddion,
6fe ddywedodd, “Am y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, fe ddaw dyddiau pryd na adewir maen ar faen heb ei ddymchwel.”
7Gofynasant iddo, “Athro, pa bryd, tybed, y bydd y pethau hyn, a beth fydd yr arwydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod?”
8Dywedodd yntau, “Edrychwch na’ch twyller chwi; canys llawer a ddaw ar bwys fy enw i, a dywedyd ‘Myfi yw’ â ‘Nesaodd yr amser’; nac ewch ar eu hôl.
9A phan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na ddychrynwch; canys rhaid i’r pethau hyn ddyfod yn gyntaf, eithr nid ar unwaith y daw’r diwedd.”
10Yna meddai wrthynt, “Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas,
11bydd daeargrynfâu mawrion a phlâu a newynau mewn amryw leoedd, bydd dychrynfeydd ac arwyddion mawrion o’r nef.
12Ond cyn y pethau hyn oll rhoddant eu dwylo arnoch, ac erlidiant chwi, gan eich traddodi i’r synagogau ac i garcharau, a’ch llusgo gerbron brenhinoedd a rhaglawiaid o achos fy enw i;
13fe dry i chwi yn dystiolaeth.
14Rhoddwch eich bryd, ynteu, ar beidio â pharatoi ymlaen llaw i’ch amddiffyn eich hunain;
15canys rhoddaf i i chwi leferydd, a doethineb na fedr eich gwrthwynebwyr ei gwrthsefyll na’i gwrthddywedyd.
16Bradychir chwi gan rieni a brodyr a cheraint a chyfeillion, a rhoddant rai ohonoch i farwolaeth,
17a byddwch gas gan bawb oherwydd fy enw i.
18Ac ni chollir un blewyn o’ch pen.
19Trwy eich dioddefgarwch bydd i chwi ennill eich eneidiau.
20Ond pan welwch amgylchu Caersalem gan fyddinoedd, y pryd hwnnw gwybyddwch fod ei difrod hi gerllaw.
21Yna ffoed y rhai a fydd yn Iwdea i’r mynyddoedd, ac aed y rhai a fydd ynddi hi allan, ac nac aed y rhai a fydd yn y wlad i mewn iddi,
22canys dyddiau dial yw’r rhain, i gyflawni’r cwbl sy’n ysgrifenedig.
23Gwae’r rhai beichiog a’r rhai a ro’r fron yn y dyddiau hynny! Canys bydd cyni mawr ar y wlad, a digofaint ar y bobl hyn;
24a syrthiant trwy fin cleddyf, a chaethgludir hwynt i’r holl genhedloedd, a bydd Caersalem yn fathredig gan genhedloedd, hyd oni chyflawner amserau’r cenhedloedd.
25A bydd arwyddion yn yr haul a’r lloer a’r sêr, ac ar y ddaear ing cenhedloedd mewn cyfyng-gyngor gan ruad môr a thonnau,
26dynion yn llewygu gan ofn a disgwyl y pethau sy’n dyfod ar y byd; canys nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
27A’r pryd hwnnw y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda gallu a gogoniant mawr.
28A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, ymsythwch a chodwch eich pennau, am fod eich ymwared yn nesáu.”
29A dywedodd ddameg wrthynt, “Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau;
30pan fwriant weithian ddail, chwi welwch a gwyddoch ohonoch eich hunain fod yr haf bellach yn agos.
31Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.
32Yn wir meddaf i chwi, nid â’r genhedlaeth hon ddim heibio hyd oni ddigwyddo’r cwbl oll.
33Y nef a’r ddaear ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
34Ymogelwch rhag un amser i’ch calonnau gael eu llethu gan syrffed a meddwdod a gofalon bywyd, ac i’r dydd hwnnw ddyfod arnoch yn ddisymwth
35fel magl; canys fe ddaw ar warthaf pawb sy’n trigo ar wyneb yr holl ddaear.
36Byddwch effro, gan weddïo bob amser am gael nerth i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd i ddigwydd, ac i sefyll gerbron Mab y dyn.”
37Ac yr oedd yn dysgu yn y deml bob dydd, a phob nos âi allan a’i threulio ar y mynydd a elwir Olewydd.
38A’r holl bobl a gyrchai ato yn fore i’w glywed yn y deml.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.