Actau'r Apostolion 19 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A thra oedd Apolos yng Nghorinth y tramwyodd Paul drwy’r parthau uchaf, a dyfod i Effesus, a chael rhai disgyblion;

2ac fe ddywedodd wrthynt, “A dderbyniasoch yr Ysbryd Glân, pan gredasoch?” Meddent hwythau wrtho, “Ond ni chlywsom hyd yn oed a oes Ysbryd Glân.”

3Dywedodd yntau, “I beth felly y’ch bedyddiwyd?” A dywedasant hwythau, “I fedydd Ioan.”

4A dywedodd Paul, “Bedydd edifeirwch oedd bedydd Ioan, a dywedai wrth y bobl am yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl am iddynt gredu ynddo ef, hynny yw yn yr Iesu.”

5Ac wedi iddynt glywed, bedyddiwyd hwynt i enw yr Arglwydd Iesu;

6ac wedi i Baul ddodi ei ddwylo arnynt fe ddaeth yr Ysbryd Glân arnynt, a dechreuasant lefaru â thafodau, a phroffwydo.

7A thua deuddeg gŵr oeddynt i gyd.

8Ac aeth i mewn i’r synagog a llefarai’n hy dros dri mis, gan siarad a cheisio perswadio ynghylch teyrnas Dduw.

9Ond gan fod rhai yn ymgyndynnu ac yn anghredu, gan ddifrïo’r Ffordd yng ngŵydd y lliaws, ymneilltuo a wnaeth oddiwrthynt, a gwahanu ei ddisgyblion; a siaradai beunydd yn ysgol Tyrannus.

10A hyn a fu am ddwy flynedd, nes i bawb a oedd yn trigo yn Asia glywed gair yr Arglwydd, Iddewon a Groegiaid.

11A grymusterau anghyffredin a wnâi Duw trwy law Paul,

12hyd oni ddygid ymaith at y cleifion oddiar ei groen ef neisiedi ac arffedogau, ac fe ymadawai eu clefydau oddi wrthynt, ac âi’r ysbrydion drwg allan.

13A cheisiodd rhai o’r Iddewon a âi o gylch, swyngyfareddwyr, enwi uwch ben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ganddynt enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, “Tynghedaf chwi trwy yr Iesu y mae Paul yn ei bregethu.”

14Ac yr oedd i ryw Scewas, archoffeiriad Iddewig, saith mab a wnâi hyn.

15Ond atebodd yr ysbryd drwg, a dywedyd wrthynt, “Yr Iesu a adwaen, a Phaul, gwn amdano, ond chwi, pwy ydych?”

16Ac fe lamodd y dyn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo arnynt, a’u meistroli i gyd, a gyrru arnynt, hyd nes iddynt ffoi allan o’r tŷ hwnnw yn noeth ac archolledig.

17A daeth hyn yn hysbys i’r holl Iddewon a Groegiaid oedd yn trigo yn Effesus, a syrthiodd ofn arnynt oll, a mawrygid enw yr Arglwydd Iesu.

18A deuai llawer o’r rhai a gredasai, gan lwyr gyffesu ar gyhoedd eu defodau.

19A llawer o’r rhai a fu’n ymarfer â dewiniaeth, casglasant eu llyfrau a’u llosgi yng ngŵydd pawb; a bwriasant eu gwerth hwynt, ac fe’i cawsant yn hanner can mil o arian.

20Mor gadarn yr oedd gair yr Arglwydd yn cynyddu a chryfhau!

21A phan gyflawnwyd y pethau hyn, fe roes Paul ei fryd ar dramwy trwy Facedonia ac Achaia, ac yna cyrchu i Gaersalem; ac meddai, “Wedi i mi fod yno rhaid i mi weled Rhufain hefyd.”

22Ac anfonodd i Facedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini arno, Timotheus ac Erastus, eithr tariodd ef ei hun am dymor, yn Asia.

23A bu yn ystod y cyfnod hwnnw gynnwrf nid bychan ynghylch y Ffordd.

24Canys rhyw ŵr, a’i enw Demetrius, gof arian, trwy wneuthur delwau arian o Artemis, a barai i’w grefftwyr waith lawer;

25fe gasglodd y rhai hyn ynghyd, gyda’r gweithwyr ar bethau o’r un fath, a dywedodd: “Wŷr, chwi wyddoch mai o’r fasnach hon y daw ein ffyniant ni,

26a gwelwch a chlywch nad yn Effesus yn unig eithr bron drwy holl Asia yr enillodd y Paul hwn dyrfa fawr, a’u troi hwynt, drwy ddywedyd, ‘y duwiau o waith dwylo, nid duwiau monynt.’

27Ac nid yn unig y mae perigl y daw dirmyg ar ein galwedigaeth, ond hefyd y cyfrifir cysegr y dduwies fawr Artemis yn ddiddim a hyd yn oed yr amddifedir hi o’i mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a’r byd yn ei haddoli.”

28A phan glywsant aethant yn llawn o ddicter, a gweiddi gan ddywedyd, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.”

29A llannwyd y ddinas â’u cythrwfl, a rhuthrasant yn unfryd i’r chwareufa, wedi cipio Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cydymdeithion Paul.

30A mynnai Paul fynd ger bron y bobl, ond ni adai’r disgyblion iddo.

31A rhai hyd yn oed o’r Asiarchiaid, a hwy’n gyfeillion iddo, a ddanfonodd ato i ddymuno arno na fentrai i’r chwareufa.

32Yn wir, gwaeddai rhai unpeth ac eraill beth arall; canys yr oedd y gynulleidfa yn blith drafflith, ac ni wyddai’r rhan fwyaf am ba achos y deuthent ynghyd.

33A thybiodd rhai o’r dyrfa mai Alecsander oedd, gan i’r Iddewon ei wthio ymlaen, a dymunai yntau, Alecsander, wedi chwifio’i law, ei amddiffyn ei hun wrth y bobl.

34Ond wedi iddynt wybod mai Iddew oedd, un llef a gyfodwyd gan bawb, a gwaeddent am oddeutu dwy awr, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.”

35Eithr wedi i’r Ysgrifennydd lonyddu’r dorf, medd ef, “Wŷr Effesus, pwy yn y byd, tybed, sydd heb wybod bod dinas yr Effesiaid yn geidwad teml Artemis fawr a’r peth a syrthiodd o’r nef?

36Felly, a’r pethau hyn yn anwadadwy, chwi ddylech fod yn llonydd heb wneuthur dim yn fyrbwyll.

37Canys dygasoch y gwŷr hyn, a hwythau heb fod yn ysbeilwyr temlau nac yn cablu ein duwies ni.

38Od oes, gan hynny, ddim cyhuddiad gan Demetrius a’r gweithwyr sydd gydag ef yn erbyn neb, cynhelir dyddiau brawdlys ac y mae rhaglawiaid; achwynent, bawb yn erbyn ei gilydd.

39Eithr os ceisiwch ddim heblaw hynny, yn y gynulleidfa gyfreithlon y penderfynir ef.

40Yn wir, y mae perigl y’n cyhuddir o derfysg ynglŷn â heddiw gan nad oes gennym un achos, ac am hyn ni allwn ni roddi cyfrif am yr ymdyrru yma.” Ac wedi iddo ddywedyd hyn, gollwng y gynulleidfa a wnaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help