1Ac ar ddydd cyntaf yr wythnos, y mae Mair o Fagdala yn y bore bach, a hi eto’n dywyll, yn dyfod at y bedd, ac y mae’n gweled y garreg wedi ei symud oddiar y bedd.
2Felly, y mae’n rhedeg ac yn dyfod at Simon Pedr ac at y disgybl arall yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac yn dywedyd wrthynt: “Y maent wedi myned â’r Arglwydd o’r bedd, ac ni wyddom ym mha le y maent wedi ei ddodi.”
3Felly aeth Pedr a’r disgybl arall allan, a chychwyn at y bedd.
4Ac yr oedd y ddau’n rhedeg gyda’i gilydd, ond rhedodd y disgybl arall yn gynt na Phedr o’i flaen, a daeth yn gyntaf at y bedd,
5ac wedi gwyro, y mae’n gweled y llieiniau ar lawr, ond eto nid aeth i mewn.
6Felly daw Simon Pedr yn ei ddilyn, ac aeth i mewn i’r bedd; ac y mae’n gweled y llieiniau ar lawr,
7a’r ffunen oedd ar ei ben, nid ar lawr gyda’r llieiniau, ond yn ei phlyg ar wahân yn ei lle.
8Yna aeth y disgybl arall hefyd i mewn, a ddaethai’n gyntaf at y bedd, a gwelodd a chredodd;
9canys nid oeddynt yn deall eto yr Ysgrythur, ei bod yn rhaid iddo atgyfodi oddiwrth y meirw.
10Felly aeth y disgyblion yn ôl tua thref.
11Ond safai Mair wrth y bedd, y tu allan, yn wylo. Yn awr, fel yr oedd yn wylo, gŵyrodd i’r bedd,
12ac y mae’n gweled dau angel wedi eu gwisgo mewn gwyn yn eistedd, un wrth y pen a’r llall wrth y traed, yn y lle y buasai corff yr Iesu yn gorwedd.
13A dywed y rhain wrthi: “Ferch, paham yr wyt ti’n wylo?” Medd hithau wrthynt: “Am eu bod wedi myned â’m Harglwydd ymaith, ac ni wn ym mha le y maent wedi ei ddodi ef.”
14Wedi dywedyd hyn, troes yn ei hôl, ac y mae’n gweled yr Iesu’n sefyll, ac ni wyddai mai Iesu oedd.
15Medd Iesu wrthi: “Ferch, paham yr wyt ti’n wylo? Pwy a geisi?” A chan feddwl mai ceidwad yr ardd ydoedd, medd hithau wrtho: “Syr, os ti a’i dug, dywed i mi ym mha le y dodaist ef, ac af innau ag ef ymaith.”
16Medd Iesu wrthi: “Mair.” Troes hithau, ac medd hi wrtho yn Hebraeg, “Rabboni” (hynny yw, Athro).
17Medd Iesu wrthi: “Paid â chyffwrdd â mi; nid wyf i eto wedi myned i fyny at fy nhad, ond dos at fy mrodyr a dywed hyn wrthynt: ‘Yr wyf i yn myned i fyny at fy nhad i a’ch tad chwithau, a’m Duw i a’ch Duw chwithau.’ ”
18Y mae Mair o Fagdala yn dyfod ac yn mynegi i’r disgyblion: “Yr wyf wedi gweled yr Arglwydd,” ac iddo ddywedyd felly wrthi.
19A phan oedd hi’n hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau wedi eu cau, lle yr oedd y disgyblion, rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu a safodd yn y canol, ac medd ef wrthynt: “Tangnefedd i chwi.”
20Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd ei ddwylo a’i ochr iddynt; felly llawenhaodd y disgyblion wedi gweled yr Arglwydd.
21A dywedodd yr Iesu wrthynt wedyn: “Tangnefedd i chwi; fel yr anfonodd y tad fi, yr wyf innau yn eich anfon chwithau.”
22Ac wedi dywedyd hyn, anadlodd arnynt a dywedodd wrthynt: “Derbyniwch ysbryd santaidd.
23Pwy bynnag y maddeuoch chwi eu pechodau, y maent wedi eu maddeu iddynt, a phwy bynnag y rhwymoch eu pechodau arnynt, y maent wedi eu rhwymo.”
24Ond nid oedd Thomas (a elwid yn Efell), un o’r deuddeg, gyda hwynt pan ddaeth Iesu.
25Felly dywedodd y disgyblion eraill wrtho: “Yr ydym ni wedi gweled yr Arglwydd.” Ond medd yntau wrthynt: “Oni welaf yn ei ddwylo dwll yr hoelion, a rhoddi fy mys yn lle yr hoelion, a rhoddi fy llaw yn ei ochr, ni chredaf i byth.”
26Ac wedi wyth niwrnod, yr oedd ei ddisgyblion wedyn yn y tŷ, a Thomas gyda hwy. Y mae’r Iesu yn dyfod, a’r drysau wedi eu cau, a safodd yn y canol a dywedodd: “Tangnefedd i chwi.”
27Yna dywed wrth Domas: “Tyred â’th fys yma, a gwêl fy nwylo, a thyred â’th law a dyro hi yn fy ochr, ac na bydd anghredwr, ond credwr.”
28Atebodd Thomas a dywedodd wrtho: “Fy Arglwydd a’m Duw.”
29Dywed yr Iesu wrtho: “Ai am dy fod wedi fy ngweled i, yr wyt wedi credu? Gwyn eu byd a gredodd a heb weled.”
30A gwnaeth yr Iesu yn wir lawer o arwyddion eraill hefyd yng ngŵydd y disgyblion, nad ydynt wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn;
31ond y mae’r rhai hyn wedi eu hysgrifennu er mwyn i chwi gredu mai Iesu ydyw’r Eneiniog, mab Duw, ac er mwyn i chwi, drwy gredu, gael bywyd yn ei enw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.