1Mewn llawer darn ac mewn llawer dull yn yr amser gynt y llefarodd Duw wrth y tadau yn y proffwydi; yn niwedd y dyddiau hyn llefarodd wrthym ni mewn mab.
2Hwn a osododd ef yn etifedd popeth, a thrwy hwn hefyd y gwnaeth y cyfanfyd.
3Hwn, ag yntau’n llewyrch ei ogoniant ef, ac yn argraff ei sylwedd ef, ac yn cynnal popeth drwy air ei allu ef, wedi gwneuthur glanhad pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y mawrhydi yn yr uchelion,
4wedi dyfod gymaint yn rhagorach na’r angylion ag ydyw yr enw a etifeddodd yn amgen na’r eiddynt hwy.
5Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd erioed:
“Fy mab wyt ti, myfi heddiw a’th genhedlodd e di”?
6ac eto,
“Byddaf fi iddo’n dad, a bydd yntau i mi’n fab”?
A phan ddygo drachefn ei gyntafanedig at bobl y byd, dywed:
“Ac ymgrymed o’i flaen ef holl angylion Duw”;
7ac am yr angylion dywed:
“Yr hwn sy’n gwneuthur ei angylion yn wyntoedd
A’i weinidogion yn fflam dân,”
8ond am y mab,
“Dy orsedd di, Dduw, sydd yn oes oesoedd, a gwialen uniondeb, gwialen ei deyrnas ef yw.
9 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist anghyfraith; oherwydd hynny, Dduw, y’th eneiniodd dy Dduw di ag olew gorfoledd rhagor dy gymheiriaid.”
10Eto:
“Ti yn y dechrau, Arglwydd, a seiliodd y ddaear, a gwaith dy ddwylo di ydyw’r nefoedd.
11 Hwynt-hwy a ddarfyddant, ond yr wyt ti’n aros, a hwy oll fel dilledyn a heneiddiant,
12 ac fel mantell y rholi di hwynt, fel dilledyn y trawsnewidir hwy;
ond ti yr un ydwyt a’th flynyddoedd ni phallant.”
13Wrth bwy, tybed, o’r angylion y dywedodd erioed:
“Eistedd ar fy neheulaw i hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed”?
14Onid ysbrydion gweini ydynt oll yn cael eu hanfon ar wasanaeth er mwyn y rhai a fydd yn etifeddu iachawdwriaeth?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.