2 Corinthiaid 3 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ai dechrau drachefn ein cymeradwyo ein hunain yr ydym? Neu a oes arnom angen llythyrau cymeradwyaeth atoch chwi neu oddi wrthych chwi megis y mae ar rai?

2Ein llythyr ni ydych chwi, wedi ei ysgrifennu

12Felly gan fod gennym y cyfryw obaith, yr ydym yn arfer rhyddid mawr

13heb wneuthur yr un modd ag yr ysgrifennwyd: Moses a osodai orchudd ar ei wyneb

Ecs. 34:33, 35. fel na chraffai meibion Israel ar ddarfyddiad yr hyn oedd yn diflannu.

14Eithr caledwyd eu meddyliau. Canys hyd heddiw y mae’r un gorchudd yn aros ar ddarlleniad yr Hen Gyfamod heb ei dynnu ymaith, gan mai yng Nghrist y dileir ef.

15Canys hyd heddiw, pa bryd bynnag y darllenir Moses, y mae gorchudd wedi ei daenu ar eu calon.

16Eithr pryd bynnag y try at yr Arglwydd symudir y gorchudd.

Ecs. 34:34.

17Yr Arglwydd yw’r Ysbryd. A lle y mae Ysbryd yr Arglwydd yno y mae rhyddid.

18A nyni oll gan syllu ag wyneb diorchudd, megis mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd,

Ecs. 16:7. a newidir i’r un ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan yr Arglwydd, yr Ysbryd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help