1Yn y dyddiau hynny, pan oedd eilwaith dyrfa fawr a heb ganddynt ddim i’w fwyta, galwodd ei ddisgyblion ato, ac medd ef wrthynt,
2“Y mae’n ddrwg gan fy nghalon dros y dyrfa, canys yn awr y maent ers tridiau’n tario gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta;
3ac os gollyngaf hwynt ar eu cythlwng adref, llewygant ar y ffordd; ac y mae rhai ohonynt o bell.”
4Ac atebodd ei ddisgyblion iddo, “O ba le y gall neb ddiwallu’r rhain â bara yma mewn diffeithwch?”
5A gofynnai ef iddynt, “Pa sawl torth sy gennych?” Dywedasant hwythau, “Saith.”
6Ac fe orchymyn i’r dyrfa eistedd ar y llawr; ac fe gymerth y saith dorth, ac wedi diolch, torrodd, a rhoddai hwynt i’w ddisgyblion i’w gosod o’u blaenau; a gosodasant hwynt o flaen y dorf.
7Ac yr oedd ganddynt ychydig o fân bysgod; ac wedi iddo’u bendithio dywedodd am roi’r rheini hefyd o’u blaenau.
8A bwytasant, a diwallwyd hwynt; a chodasant o ddarnau gweddill saith gawellaid.
9Ac yr oeddynt ynghylch pedair mil. A gollyngodd hwynt ymaith.
10Ac yna aeth i’r llong gyda’i ddisgyblion, a daeth i barthau Dalmanwtha.
11A daeth y Phariseaid allan, a dechreuasant ddadleu ag ef, gan geisio ganddo arwydd o’r nef, er ei brofi.
12Ac wedi ocheneidio yn ei ysbryd, fe ddywed “Paham y mae’r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, meddaf i chwi, ni roddir i’r genhedlaeth hon arwydd.”
13A gadawodd hwynt, ac wedi mynd drachefn i’r llong, aeth ymaith i’r ochr arall.
14Ac anghofiasent gymryd bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwynt yn y llong.
15A gorchmynnai iddynt gan ddywedyd, “Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod.”
16Ac ymresyment â’i gilydd nad oedd ganddynt fara.
17A phan wybu, fe ddywed wrthynt, “Paham yr ymresymwch nad oes gennych fara? Oni welwch fyth, ac oni ddeellwch? Ai wedi ei dallu y mae eich calon gennych?
18A llygaid gennych oni welwch, ac â chlustiau gennych oni chlywch?
gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac wedi tridiau atgyfodi;32a difloesgni y llefarai’r ymadrodd. A chymerth Pedr ef ato, a dechreuodd ei geryddu.
33Troes yntau, ac wrth weled ei ddisgyblion, ceryddodd Bedr; ac medd ef, “Dos yn fy ol i, Satan; canys nid wyt yn synio pethau Duw, ond pethau dynion.”
34A galwodd ato’r dyrfa ynghyda’i ddisgyblion, a dywedodd wrthynt, “Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi.
35Canys pwy bynnag a fynno gadw ei fywyd, hwnnw a’i cyll; ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i a’r efengyl, hwnnw a’i ceidw.
36Canys pa elw i ddyn yw ennill y byd oll a fforffedu ei fywyd?
37Canys beth a all dyn ei roi’n gyfnewid am ei fywyd?
38Canys pwy bynnag y bo arno gywilydd ohonof fi ac o’m geiriau yn y genhedlaeth anffyddlon a phechadurus hon, ar Fab y dyn yntau y bydd cywilydd ohono ef, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad gyda’r angylion santaidd.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.