1Ac wrth fyned heibio, gwelodd ddyn dall o’i enedigaeth,
2a holodd ei ddisgyblion ef gan ddywedyd: “Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni fel y ganed ef yn ddall?”
3Atebodd Iesu: “Nid hwn a bechodd na’i rieni chwaith, ond er mwyn amlygu gweithredoedd Duw ynddo ef.
4Rhaid i ni weithio gweithredoedd yr hwn a’m hanfonodd tra fo hi’n ddydd. Y mae’r nos yn dyfod pan na all neb weithio.
5Tra fwyf yn y byd, goleuni’r byd ydwyf.”
6Wedi dywedyd hyn, poerodd ar lawr a gwnaeth laid o’r poer, a rhoes y llaid ar ei lygaid
7a dywedodd wrtho: “Dos, ymolch yn llyn Siloam” (a gyfieithir yn Anfonedig). Aeth yntau ymaith ac ymolchodd a daeth yn gweled.
8Felly dywedodd y cymdogion, a’r rhai a’i gwelai gynt pan oedd yn gardotyn: “Onid hwn yw’r dyn oedd yn eistedd ac yn cardota?”
9“Hwn ydyw,” medd rhai. “Nage,” medd eraill, “ond un tebig iddo ydyw.” Medd yntau: “Myfi yw.”
10Dywedasant hwythau wrtho: “Sut felly yr agorwyd dy lygaid?”
11Atebodd yntau: “Y dyn a’i enw Iesu a wnaeth laid ac a irodd fy llygaid ac a ddywedodd wrthyf: ‘Dos i Siloam ac ymolch’; felly wedi myned ac ymolchi, mi ddeuthum i weled.”
12A dywedasant wrtho: “Ym mha le y mae ef?” Medd yntau: “Ni wn i.”
13Ant ag ef at y Phariseaid, y dyn oedd gynt yn ddall;
14ac yr oedd hi’n Sabath ar y dydd y gwnaeth yr Iesu y llaid ac yr agorodd ei lygaid.
15Felly dyma’r Phariseaid hefyd yn ei holi wedyn sut y daeth i weled, ac meddai yntau wrthynt: “Llaid a roes ar fy llygaid i ac ymolchais ac yr wyf yn gweled.”
16Dywedodd rhai o’r Phariseaid, felly: “Nid ydyw’r dyn hwn oddiwrth Dduw ag yntau heb fod yn cadw y Sabath.” Medd eraill, “Sut y gall dyn pechadurus wneuthur arwyddion o’r fath?” Ac aeth yn ddwyblaid yn eu plith,
17a dywedasant wedyn wrth y dyn dall: “Beth a ddywedi di amdano, ag yntau wedi agor dy lygaid?” Dywedodd yntau: “Proffwyd ydyw.”
18Felly ni chredai’r Iddewon amdano ei fod yn ddall ac wedi dyfod i weled nes galw ohonynt ei rieni ef, y dyn a ddaethai i weled,
19a holasant hwynt gan ddywedyd: “Hwn yw eich mab chwi y dywedwch chwi ei fod wedi ei eni’n ddall? Sut ynteu y mae yn awr yn gweled?”
20Atebodd ei rieni a dywedasant: “Gwyddom mai hwn yw ein mab ac mai’n ddall y ganed ef,
21ond sut y mae’n gweled yn awr nis gwyddom, a phwy a agorodd ei lygaid nis gwyddom ni; holwch ef, y mae mewn oed, fe sieryd ef amdano’i hun.”
22Hyn a ddywedodd ei rieni am fod ofn yr Iddewon arnynt, oherwydd yr oedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno i dorri allan o’r synagog bob un a’i harddelai ef yn Eneiniog.
23Dyna paham y dywedodd ei rieni, “Y mae mewn oed, holwch ef.”
24Felly galwasant yr ail waith y dyn a fuasai’n ddall, ac meddent hwy wrtho: “Dyro ogoniant i Dduw; gwyddom ni mai pechadur ydyw hwn.”
25Atebodd yntau: “Ai pechadur ydyw, nis gwn. Un peth a wn, mai dall oeddwn a’m bod yn awr yn gweled.”
26Meddent hwy felly wrtho: “Beth a wnaeth iti? Sut yr agorodd dy lygaid di?”
27Atebodd iddynt: “Yr wyf wedi dywedyd wrthych yn barod, ond ni wrandawsoch. Paham y mynnwch glywed eilwaith? Nid oes arnoch chwithau hefyd eisieu bod yn ddisgyblion iddo, a oes?”
28A chablasant ef a dywedasant wrtho: “Yr wyt ti’n ddisgybl i hwn, ond disgyblion Moesen ydym ni.
29Gwyddom ni am Foesen, i Dduw lefaru wrtho, ond am hwn, ni wyddom o ba le y mae.”
30Atebodd y dyn a dywedodd wrthynt: “Ie, dyna’r rhyfeddod na wyddoch chwi o ba le y mae, ag yntau wedi agor fy llygaid i.
31Gwyddom nad yw Duw yn gwrando ar bechaduriaid, ond os yw neb yn ofni Duw ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae’n ei wrando.
32Ni bu erioed sôn bod neb wedi agor llygaid dyn wedi ei eni’n ddall.
33Onid oedd hwn o Dduw, ni allasai wneuthur dim.”
34Atebasant a dywedasant wrtho: “Mewn pechodau y ganed di’n gyfangwbl, ac a wyt ti’n ein dysgu ni?” A bwriasant ef allan.
35Clywodd Iesu eu bod wedi ei fwrw allan, ac meddai ef, wedi dyfod o hyd iddo: “A wyt ti’n credu ym mab y dyn?”
36Atebodd yntau a dywedodd: “A phwy yw, Syr, er mwyn i mi gredu ynddo?”
37Dywedodd yr Iesu wrtho: “Nid yn unig yr wyt ti wedi ei weled, ond yr hwn sydd yn siarad â thi ydyw.”
38Medd ef: “Yr wyf yn credu, Arglwydd.” Ac addolodd ef.
39A dywedodd yr Iesu: “I farn y deuthum i i’r byd hwn, fel y gwelo’r rhai ni welant ac yr êl y rhai sy’n gweled yn ddeillion.”
40Clywodd y rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef hynny, a dywedasant wrtho: “A ydym ninnau hefyd yn ddeillion?”
41Meddai’r Iesu wrthynt: “Pe baech ddeillion, ni byddai pechod arnoch. Yn awr dywedwch, ‘Yr ydym yn gweled’; y mae eich pechod yn aros.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.