1Ac yn hwyr ar y Sabbath, a hi’n nesau at ddydd cyntaf yr wythnos, daeth Mair o Fagdala a’r Fair arall i edrych y bedd.
2Ac wele, bu daeargryn mawr; canys disgynasai angel yr Arglwydd o’r nef, a dyfod a threiglo’r maen ymaith, ac yr oedd yn eistedd arno.
3Yr oedd ei wedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira.
4A rhag ei ofn crynodd y gwylwyr, ac aethant fel rhai meirw.
5A llefarodd yr angel a dywedodd wrth y gwragedd, “Peidiwch chwi ag ofni; canys gwn mai’r Iesu croeshoeliedig a geisiwch.
6Nid yw yma; canys cyfododd, megis y dywedodd; dowch, gwelwch y fan lle gorweddai.
7Ac ewch ar frys a dywedwch wrth ei ddisgyblion, ‘Cyfododd oddi wrth y meirw, ac wele, y mae’n mynd o’ch blaen i Galilea; yno y gwelwch ef.’ Wele, dywedais wrthych.”
8Ac aethant ymaith ar frys oddi wrth y bedd mewn ofn a llawenydd mawr, a rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion.
9Ac wele Iesu yn eu cyfarfod a dywedyd, “Henffych well.” Daethant hwythau ato, ac ymafael yn ei draed, ac ymgrymu iddo.
10Yna medd yr Iesu wrthynt, “Peidiwch ag ofni; ewch, mynegwch i’m brodyr am iddynt fyned ymaith i Galilea, ac yno y’m gwelant.”
11A phan oeddent ar eu ffordd, dyma rai o’r gwarchodlu yn mynd i mewn i’r ddinas, ac yn mynegi i’r archoffeiriaid yr holl bethau a ddigwyddodd.
12Ac wedi iddynt ymgynnull gyda’r henuriaid ac ymgynghori, rhoesant gryn swm o arian i’r milwyr,
13gan ddywedyd, “Dywedwch, ‘Ei ddisgyblion a ddaeth yn y nos, a’i ddwyn ef, pan oeddem ni’n cysgu.’
14Ac os codir hyn o flaen y rhaglaw, fe’i perswadiwn ni ef, a pharwn na bydd rhaid i chwi ofalu.”
15Cymerasant hwythau’r arian, a gwnaethant fel y cyfarwyddwyd hwynt. A thaenwyd yr hanes hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
16Ac aeth yr un disgybi ar ddeg i Galilea, i’r mynydd lle y trefnasai’r Iesu iddynt fyned;
17a phan welsant ef ymgrymasant iddo; ond amau a wnaeth rhai.
18A daeth yr Iesu atynt, a llefaru wrthynt, gan ddywedyd, “Rhoddwyd i mi lawn awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.
19Ewch, ynteu, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio i enw y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,
20gan ddysgu iddynt gadw yr holl orchmynion a roddais i chwi. Ac wele, yr wyf i gyda chwi bob dydd hyd derfyniad yr oes.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.