1Dyma fy meddwl — hyd tra bo’r etifedd yn blentyn, ni bydd dim rhagor rhyngddo â gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl.
2Ond o dan ofalwyr y bydd, a goruchwylwyr, hyd yr amser a bennodd y tad.
3Felly ninnau hefyd, pan oeddym blant, mewn caethiwed yr oeddym oddi tan ysbrydion elfennau ’r byd.
4Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, danfonodd Duw ei fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur oddi tan y ddeddf,
5fel y prynai’r rhai oedd oddi tan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad.
6Ac oblegid mai meibion ydych, danfonodd Duw i’n calonnau ni Ysbryd ei Fab, yn llefain Abba Dad.
7Felly nid wyt mwy was, ond mab, ac os mab, etifedd hefyd trwy Dduw.
8Eithr y pryd hwnnw, â chwi heb adnabod Duw, caethweision oeddych i’r rhai wrth naturiaeth nad ydynt dduwiau.
9Ond yn awr, wedi dyfod ohonoch i adnabod Duw, neu’n hytrach wedi dyfod i’ch adnabod gan Dduw, pa fodd yr ymchwelwch eilwaith at ysbrydion llesg a thlawd yr elfennau; a mynnu eilwaith o newydd eu gwasanaethu?
10Cadw dyddiau yr ydych, a misoedd, ac amserau, a blynyddoedd.
11Ofni’r wyf amdanoch, rhag digwydd darfod i mi ymboeni wrthych yn ofer.
12Byddwch fel myfi, canys deuthum innau i fod fel chwychwi, frodyr, yr wyf yn deisyf arnoch. Ni wnaethoch â mi ddim cam,
13ond gwyddoch mai oherwydd gwendid fy nghnawd yr efengylais y waith gyntaf i chwi,
14a’r hyn oedd demtasiwn i chwi yn fy nghnawd i, nis dirmygasoch, ac nis ffieiddiasoch, eithr fy nerbyn i megis angel Duw, megis Crist Iesu.
15Pa le y mae’ch ymannerch, ynteu? Canys tystio yr wyf i chwi, â bod modd, y tynasech allan eich llygaid a’u rhoddi i mi.
16Felly a euthum i yn elyn i chwi, a mi’n dywedyd y gwir wrthych?
17Eich anwesu y maent hwy, nid ag amcan da, eithr ewyllysiant eich cau chwi allan, fel yr anwesoch hwythau.
18Ond da yw’ch anwesu mewn peth da bob amser, ac nid yn unig a minnau yno yn eich gŵydd chwi,
19fy mhlant bychain, y rhai yr wyf ym mhoenau esgor drostynt eilwaith, hyd oni ffurfier Crist ynoch chwi.
20Ond mynnwn fy mod yna yn eich plith yr awron, a newid fy nhôn, canys yr wyf mewn penbleth o’ch plegid.
21Dywedwch i mi, chwi sy’n ewyllysio bod tan ddeddf, onid ydych yn clywed y ddeddf?
22Canys ysgrifenedig yw — cafodd Abraham ddau fab, un o’r gaethferch ac un o’r wraig rydd:
23eithr hwnnw a oedd o’r gaethferch, yn ôl y cnawd y cenhedlwyd: ond hwnnw o’r wraig rydd, trwy addewid.
24Alegorïaidd yw’r pethau hyn, canys y ddwy hyn, dau gyfamod ydynt, un o fynydd Sinai, yn cenhedlu i gaethiwed, sef yw,
25Hagar (a Hagar, mynydd Sinai yn Arabia yw), a chyfateb y mae i’r Gaersalem sydd yn awr; canys mewn caethiwed y mae hi ynghyd â’i phlant;
26ond y Gaersalem fry, rhydd ydyw, honno yw ein mam ni;
27canys ysgrifenedig yw:
Llawenha, dydi ddiepil, nad wyt yn planta;
torr i ganu a bloeddia, dydi nad wyt yn esgor;
canys llawer fydd plant yr un amhriod ragor
honno y mae gŵr iddi.
28A chwithau, frodyr, plant addewid ydych, un wedd ag Isaac.
29Eithr megis gynt yr erlidiai hwnnw, a genhedlwyd yn ôl y cnawd, yr un a genhedlwyd yn ôl yr Ysbryd, felly eto hefyd.
30Ond pa beth a ddywed yr ysgrythur? Bwrw allan y gaethferch a’i mab: canys ni bydd mab y gaethferch yn etifedd, ddim gyda mab
Gen. 21:10. y wraig rydd.31Felly, frodyr, nid plant i’r gaethferch ydym, ond i’r wraig rydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.