2 Thesaloniaid 1 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Pawl a Silfan a Thimotheus at eglwys y Thesaloniaid yn Nuw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.

2Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist.

3Dylem, frodyr, ddiolch yn wastadol i Dduw amdanoch, fel y mae yn gweddu inni, oherwydd dirfawr gynnydd eich ffydd a bod cariad pob un ohonoch tuag at ei gilydd yn ymhelaethu,

4fel yr ymffrostiwn ninnau ynoch yn eglwysi Duw am eich amynedd a’ch ffydd yn eich holl erledigaethau a’r blinderau a ddioddefwch.

5Prawf ydynt o farn gyfiawn Duw i’ch gwneuthur chwi’n deilwng o deyrnas Dduw, y dioddefwch er ei mwyn; yn gymaint

6â’i bod yn gyfiawn gan Dduw ad-dalu blinder i’r rhai a’ch blina chwi,

7a gollyngdod i chwithau, a flinir ynghyda ninnau, yn natguddiad yr Arglwydd Iesu o’r nef gydag angylion Ei nerth,

8mewn tân fflam, i ddial ar y rhai nad adwaenant Dduw ac nad ufuddhânt i efengyl ein Harglwydd Iesu.

9Eu cosb fydd dinistr bythol allan o wyddfod yr Arglwydd ac o ogoniant Ei nerth Ef

10pan ddêl i’w ogoneddu yn Ei saint, ac i’w ryfeddu yn y rhai oll a gredodd, oblegid credwyd ein tystiolaeth i chwi, yn y dydd hwnnw.

11Er mwyn hyn y gweddïwn hefyd yn wastadol drosoch, ar i’n Duw eich gwneuthur yn deilwng o’i alwad a chyflawni trwy Ei nerth bob awyddfryd daionus a gwaith ffydd ynoch,

12fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw a’r Arglwydd Iesu Grist.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help